#AtgofGen Coroni Ffermwr a chyfaill ysgol yr Archdderwydd ar y Dydd Mawrth yn Llanbed

Diwrnod y Coroni, cyhoeddi Clonc a gwobrau i Timothy Evans a Meinir Dwynant yn Eisteddfod 1984

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Y Coroni yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984. Llun gan Tegwyn Roberts.

Fy Nyddiadur Personol – 7fed o Awst
Bore – Gwerthu Clonc ar y Maes a chael dwy geiniog am bob copi a werthwyd.  Mae gwobr hefyd i werthwr gorau’r wythnos.
2.30yp Gweld y Coroni yn y Pafiliwn gan fod Tad-cu a Mam-gu wedi noddi’r Goron.
6.00yh Ymarfer Côr yr Urdd gyda Trebor Edwards yn Festri Soar.
7.30yh Cyngerdd Hafod Henri yn y Pafiliwn.
(Menyw o’r enw Viera yn aros gyda ni ym Mronwydd).

John Roderick Rees o Benuwch enillodd y goron am ysgrifennu pryddest ar y teitl ‘Llygaid’ yn canmol mewnfudwyr am atal tranc cefn gwlad. Roedd 30 ymgais ac roedd y tri beirniad E Gwyndaf Evans, Pennar Davies a Dafydd Rowlands yn unfrydol mai cerdd ‘Tua’r Gorllewin’ oedd yn fuddugol.

Dyma ran ohoni:

Dacw Ben-cnwc
A fu’n tylluanu a mwsogli
Drwy aeafau gwag;
Ni chad blodau lleithder
Fedd-dorchi ar fur
Trwy ddeugain gaeaf y glaw
A glynodd y llechi’n eu lle
Trwy fil troedfeddi y gwynt;
Nid aeth â’i ben iddo,
Diolch i’r dwylo nad ŷnt.
Aeth pob tenant o Gymro
O’r tu arall heibio.

Dywedodd Sion Aled yn Y Faner:

“Yn rhythmau ei linellau y mae John Roderick Rees yn dangos ei feistrolaeth ar y wers rydd, cyfrwng sy’n gofyn llawn gymaint o grefft i’w drin yn effeithiol ag y mae’r mesurau caethion, fel y gall gynnig i ni farddoniaeth rydd yn hytrach na rhyddiaith gaeth.”

Coronwyd John Roderick Rees gan yr Archdderwydd W J Gruffydd a oedd yn gyfaill ysgol iddo. Canwyd Cân y Coroni gan Eirian a Meinir Dwynant.

Gwrthododd yr Archdderwydd â chynnal munud o dawelwch yn ystod seremoni’r coroni. Roedd CND a Chymdeithas yr Iaith yn galw arno i gofio dioddefwyr Hiroshima. Ceisiodd y protestwyr atal yr Orsedd rhag mynd i’r pafiliwn, ond fe’u symudwyd gan yr heddlu.

Dangoswyd gwrthwynebiad i’r cylchgrawn ‘Lol’ ar y Maes heddiw hefyd wrth i brotestwyr benywaidd rwygo copïau o’r cylchgrawn a oedd yn cynnwys lluniau o fenywod porcyn yn ogystal â mynd a chopïau o stondin y cyhoeddwyr.

Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf yr wythnos o Bapur Bro Clonc gydag adolygiad o Sioe Gerdd Pwyllgor Ieuenctid yr Eisteddfod yn Theatr Felinfach a lluniau Pasiant y Plant yn y Pafiliwn.

‘Dewrach Rhain’ oedd enw’r sioe gerdd a dyma ddyfyniad o’r adolygiad yn Clonc.

“Teimlais fod yr actorion wedi cyrraedd safon dderbyniol, yn enwedig o gofio mai pobl ifanc cwbl ddibrofiad oedd y mwyafrif ohonynt. Yn sicr cafodd ‘Siwsan’ (Iona James); ‘Gareth’ (Dai Morgan); ‘Mwgs’ (Graham Bowen) a ‘Cath’ (Hedydd Hughes) hwyl arbennig o dda ar bortreadu eu cymeriadau hwythau. Hoffais y syniad o gael band yn rhan amlwg o’r perfformiad ac roedd y gerddoriaeth o safon uchel iawn gydag ambell gân fel ‘Gyda’n gilydd’ ac ‘Annwyl Ieuenctid’ yn cydio’n dda iawn.”

‘Ar Gered’ oedd enw’r pasiant a dyma’r hyn ag ysgrifennwyd yn Clonc.

“Neithiwr cynhaliwyd pasiant y plant gyda 1,200 o blant yn arddangos eu dawn; plant yn cynrychioli 59 o ysgolion Ceredigion. Gwledd o liw na allai fethu ag ennill calonnau’r gynulleidfa. Braf oedd gweld y Pafiliwn yn llawn ar gyfer eu perfformiad.”

Bu Hefin Jones yn gweld Meic Stevens a Mabinogi yng Nghlwb Rygbi Llanybydder nos Sul a dyma beth ysgrifennodd yn y golofn ‘Popian’ ym Mhapur Bro Clonc:

“Cafwyd noson arbennig iawn, a phob un mewn hwyliau da, ac unig siom y noson oedd i’r heddlu stopio’r canu tua hanner awr wedi un-ar-ddeg ac roedd pawb yn ddig iawn, oherwydd nid oedd rheswm ganddynt dros orffen y joio.”

Canlyniadau’r dydd: Parti deulais Cerdd Dant dan 15: 1. Parti’r Dderwen, Caerfyrddin; 2. Adran yr Urdd Treforys; 3. Parti Adran yr Urdd Llanbed. Adrodd o’r Ysgrythur 12-15: 1. Gwyn Hughes Jones, Llanbedr Goch, Ynys Môn; 2. Rhian Medi Roberts, Llanfairpwll, Ynys Môn; 3. Carys Wyn Thomas, Peniel, Caerfyrddin. Unawd Alawon Gwerin 12-16: 1. Huw James, Trimsaran, Llanelli; 2. Mary Jones, Ciliau Aeron; 3. Helen Medi, Garndolbenmaen. Adrodd 12-15: 1. Rhodri Wyn Miles, Pontarddulais; 2. Lowri Mererid, Botwnnog, Pwllheli; 3. Eirith Ann Evans, Blaen-y-Cod, Caerfyrddin. Dawns Stepio Unigol i Ferched: 1. Catrin Davies, Trelech, Caerfyrddin. Unawd Tenor 18-25: 1. Timothy Evans, Silian, Llanbed; 2. John Eifion Jones, Garndolbenmaen. Deuawd Cerdd Dant dan 21: 1. Bryn Terfel a John Eifion Jones, Garndolbenmaen. Grŵp Siambr: 1. Pumpawd Pres Aberystwyth a’r cylch; 2. Grŵp Heledd Ann, Rhydaman; 3. Pedwarawd Sacs Glannau Teifi. Unawd Contralto 18-25: 1. Meinir Dwynant, Cwmann; 2. Ruth Aled, Llansannan; 3. Jennifer Parry, Aberhonddu. Adrodd o’r Ysgrythur 15-18: 1. Ann Caroline Davies, Cynwil Elfed. Piano 12-15: 1. Roger Owen, Hwlffordd. Telyn 12-15: Gwenau Elis Roberts, Lerpwl. Ffidil 12-15: 1. Angela Eniston, Llanelli. Fiola 12-15: 1. Eirlys Lewis, Aberaeron. Soddgrwth 12-15: 1. Huw Llwyd Rowlands, Rhydypennau. Gitâr 12-15: 1. Cathy Williams, Pumsaint. Ffliwt 12-15: 1. Sian Nia Palmer, Canada. Obo 12-15: 1. Glyn Alwyn, Capel Bangor. Clarinét 12-15: 1. Helen Mary Thomas, Felinfach. Basŵn 12-15: 1. William Dyfed Rowlands, Rhydypennau. Utgorn 12-15: 1. Matthew Evans, Llanelli. Trombôn 12-15: 1. Llyr Thomas, Castellnewydd Emlyn.

Gyda’r hwyr:
Cyngerdd “Hwyl o’r Hafod” gyda chriw o actorion Hafod Henri BBC Cymru yn cyflwyno Hogiau’r Wyddfa, Hogiau’r Ddwylan, Côr Telyn Teilo, Angela Rogers Davies, Tom Davies, Rosalind a Myrddin a Pharti Talog yn y Pafiliwn. £2.50
– Cwmni Whare Teg yn cyflwyno “Y Siaced” gan Urien William yn Theatr Coleg Dewi Sant, Llanbed. £3.00
– Cwmni Drama Llwyndyrys yn cyflwyno “Tewach Dŵr” gan William Owen yn Ysgol Gyfun Aberaeron. £2.50
Drama Gerdd “Dewrach Rhain” yn Theatr Felinfach. £2.00
– Noson Cymdeithas yr Iaith yng nghwmni Plethyn a Steve Eaves a’i driawd yng Nghlwb Rygbi Llanbed. £2.00
– Noson Clwb Cawl a Chân yng nghwmni Hwntws a Bwchadanas yng Nghlwb Rygbi Llanybydder. £2.00
Delme Bryn Jones, Parti Côr Glowyr Cwm Nedd gydag artistiaid eraill yn yr Old Quarry, Llanbed.  Elw tuag at deuluoedd y glowyr.
Twmpath Dawns CFfI Ceredigion yn Neuadd Fictoria, Llanbed. £1.00
Rhydcymerau, Cyflwyniad gan Gwmni Theatr Brith Gof yn Hen Farchnad Llambed (tu ôl Neuadd y Dref) £2.00
Comedi gan Gwmni Cyfri Tri yn Neuadd Sant Iago Cwmann.
Twrw Tanllyd gydag Eryr Wen, Ceffyl Pren, Ffenestri a Disgo Calimero ym Mlaendyffryn.
– Noson Cylchgrawn Sgrech gyda Meic Stevens a’i Grŵp yng Nghlwb Tyglyn, Ciliau Aeron 8.00-1.00 o’r gloch gyda bysiau yn gadael Llanbed am 7.30. £2.50