Cyhoeddwyd trydydd rhifyn yr wythnos o Bapur Bro Clonc heddiw gyda llun pen-ôl y fenyw a aeth yn sownd yn y pafiliwn a phenillion i gofio’r digwyddiad anffortunus.
Brynhawn dydd Iau’r cadeirio
A phawb yn eiste’n dwt,
Fe gafodd rhoces syniad
I ddod i mewn trwy’r gwt.Gosododd ysgol ddringo
I bwyso yn y cefn,
Fel gallai ddringo i fyny
A dringo nôl drachefn.Fe stwffiodd bentigili
I fwlch rhwng wal a’r to,
Ac yno bu’n cwhwfan
Fel gwnaeth Erika Roe.Fe gafodd weld y llwyfan
Heb fawr o golli chwys,
A WJ’n urddasol
‘N cadeirio Aled Rhys.Ynghanol yr holl firi
A’r dathlu heintus llon,
Fe ffeindiodd hon ei bod hi
Yn styc rhwng tin a bron.Danfonwyd am beiriannydd
We’n fisi’n trwsio ffiws,
A chaed hi’n rhydd mewn amser
Trwy ddatod byllt a sgriws.Chi eisteddfodwyr pybur
Os fyddwch fyth heb stôl –
Sdim angen fflachio’ch bronnau
Na dangos eich penol!
Edwin Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith oedd Llywydd y Dydd heddiw a chafwyd gair o ddiolch ganddo yn y rhifyn olaf o Clonc:
“Dymuna Edwin Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod longyfarch ‘Clonc’ am ei waith yn ystod yr wythnos. Ac ar ddydd olaf yr Eisteddfod carai ddiolch i BAWB a weithiodd mor galed dros y tair blynedd ddiwethaf i sicrhau llwyddiant y brifwyl.”
Mewn cyfarfod o 40 o fenywod gan fudiad Cymorth i Fenywod Cymru honnwyd bod menywod ifanc yn cael eu haflonyddu’r rhywiol yn yr Eisteddfod Genedlaethol a bod y mannau peryclaf yn y Maes Carafanau a’r Maes Pebyll.
Ond adroddwyd yn y Western Mail ar y 13eg Awst nad oedd yr heddlu na swyddogion yr Eisteddfod wedi derbyn unrhyw gwynion am hyn. Dywedodd cynrychiolydd Cymorth i Fenywod Cymru bod nifer cynyddol o fenywod yn achwyn am aflonyddu rhywiol gan grwpiau o ieuenctid wedi meddwi.
Ymatebodd Gwesyn Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Carafanau mewn llythyr yn y Western Mail yn hwyrach yn yr wythnos gan ddweud na welodd e neb o fudiad Cymorth i Fenywod Cymru yn y Maes Carafanau yn ystod yr wythnos. Ychwanegodd fod llawer o rieni plant yn eu harddegau wedi galw yn swyddfa’r Maes Carafanau i ganmol y ffordd y gweinyddwyd y cyfleusterau. O’r 900 o garafanau a fu yno, dim ond tri chwyn a gafwyd o ymddygiad swnllyd, a deliwyd a hwy mewn ffyrdd effeithiol a chyfeillgar gan y stiwardiaid.
Canlyniadau’r dydd: Ruban Glas Offerynnol: 1. Gwawr Owen, Glynarthen. Deuawd: 1. Carol Longden, Clydach a Helen Mason, Penllergaer; 2. Marian Powell a Glenys Jones; 3. Janet Jones a Marie Richards. Adrodd dros 25: 1. Delyth Mai Nicholas, Yr Hendy, Pontarddulais; 2. Bethan Jones, Llanfairpwll; 3. Dennis Davies, Llanrwst. Unawd Operatig: 1. Odette Jones, Trawscoed. Parti Alawon Gwerin dros 18: 1. Merched Dyffryn Dulais, Pontarddulais; 2. Lleisiau Mignedd, Dyffryn Nantlle. 3. Y Crotesi, Llanbed. Arwain Corawl dan 25: 1. Gwawr Owen, Glynarthen; 2. Eleri Davies, Llanbed. Côr Adrodd i unrhyw nifer: 1. Parti Lleisiau Llifon, Bontnewydd; 2 Parti’r Foel, Brynsiencyn; 3. Parti Meillion-y-Maes, Caerfyrddin. Côr Cerdd Dant Deulais neu fwy dros 16 o leisiau: 1. Côr Merched Pantycelyn, Aberystwyth; 2. Merched Uwchllyn, Llanuwchllyn; 3. Côr Cerdd Dant Cwm Tawe, Abertawe. Côr Meibion heb fod dros 40 o leisiau: 1. Côr Meibion yr Eifl, Trefor; 2. Cantorion Gwalia, Abertawe; 3. Côr Meibion Gyrlais, Abertawe. Cwpan Gwynfor am actio: 1. Cwmni Tegid, Y Bala; Cydradd 2. Cwmni Parc, Y Bala a Chwmni Glannau Colwyn, Bae Colwyn.
Canlyniadau’r hwyr: Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant: 1. Triawd Cennin, Garndolbenmaen; 2. Triawd y Gad, Aberystwyth. Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn: 1. Hannah Roberts, Treboeth, Abertawe; 2. Delyth Mai Nicholas, Yr Hendy, Pontarddulais; 3. Ivoreen Williams, Cydweli. Gwobr Goffa David Ellis: 1. Maldwyn Parri, Penygroes; 2. Gareth Wyn Rowlands, Dinbych. Côr Meibion heb fod yn llai na 70 o leisiau: 1. Côr Meibion Llanelli; 2. Côr Meibion y Canoldir, Birmingham; 3. Côr Meibion Ystradgynlais.
Daeth 21,000 o bobl i’r brifwyl heddiw.
Beth oedd ’mlaen gyda’r hwyr:
– Drama Gomisiwn yr Eisteddfod “Y Tadau a’n Cenhedloedd” gan Elfyn Jenkins yn Theatr Coleg Dewi Sant, Llanbed.
– Cystadleuaeth Actio Drama Hir gyda Chwmni Theatr Fach Cross Hands yn perfformio “Awel Gref” gan Emlyn Williams yn Theatr Felinfach.
– Noson Cymdeithas yr Iaith yng nghwmni Yr Hwntws a Mari Owen yng Nghlwb Rygbi Llanbed. £2.50
– Noson Werin Clwb Cawl a Chân yng nghwmni Mynediad am Ddim a Sian Wheway yng Nghlwb Rygbi Llanybydder. £2.00
– Geraint Lovegreen, Penderyn, Medelwr a Chwarter i Un yn Old Quarry, Llanbed.
– Twrw Tanllyd gyda Maffia Mr Huw, Treiglad Pherffaith, Pal a’r Gwylliaid Cochion a Disgo Calimero yn Neuadd Fictoria Llanbed. £3.00
– Cwmni Hwyl a Fflag / Sgwâr Un yn cyflwyno drama newydd Gareth Miles “Ffatri Serch” gyda Clive Roberts, Mari Gwilym, Eirlys Hywel, Wyn Bowen Harris a Cefin (Hapnod) Roberts yn Neuadd Ysgol Gyfun Aberaeron. £3.00