#AtgofGen Urddo i’r Orsedd yn Llanbed

Profiad bythgofiadwy gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar drothwy’r drws.

gan Trefina Jones

Fel merch o Lanbed oedd â diddordeb yn y byd Eisteddfodol roedd dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i’r dre ym 1984 yn gyfnod cyffrous iawn.

Er mod i erbyn 1984 wedi mynd yn fyfyrwraig i’r Coleg ym Mangor bûm ynghlwm â’r trefniadau cynnar pan yn fy mlwyddyn olaf yn yr Ysgol a’r gorchwyl olaf i fi yn yr Ysgol Uwchradd oedd cymryd rhan yng Ngŵyl y Cyhoeddi. O ganlyniad i hyn, roedd gan ddod yn aelod o’r Orsedd, yn yr Eisteddfod yn fy nghartref, arwyddocâd arbennig.

Os cofiaf yn iawn, roedd gan Mrs Delyth Hopcyn Evans ran bwysig yn y penderfyniad, gan iddi hi fy annog, gan fy mod yn dilyn cwrs Cerddoriaeth Lefel A yn yr Ysgol, i geisio dod yn aelod o’r orsedd drwy’r broses arholiad Cerdd. Bues yn ddigon ffodus i lwyddo yn yr arholiad ac felly bu’r edrych ymlaen yn fawr.

Yn y cyfnod yna, ar Ddydd Mawrth a Dydd Iau oedd yr orsedd yn cyfarfod a mawr oedd y siom ar y bore Mawrth o weld ei bod yn bwrw glaw, felly yn hytrach na chael fy urddo ar y Maen Llog yng Nghylch yr Orsedd, ar lwyfan yr Ysgol Uwchradd y bu’r urddo.

Roedd Mam a nifer o wragedd yr ardal gan gynnwys llawer o’m Antis o ran enw, os nad o ran perthynas, sef Anti Ann Bronwydd, Anti Eryl Gerlan ac Anti Beti’r Mans wedi bod yn rhan o’r fintai o wragedd lleol a fu’n smwddio gwisgoedd yr orsedd- gorchwyl go anodd!

Rwy’n cofio i’r seremoni fod yn un llawn balchder ac roedd mor braf gweld pobl oedd â chysylltiad personol â mi’n cymryd rhan flaenllaw yn y Seremoni. Un o’m ffrindiau gorau, Delyth Medi, oedd Morwyn y Fro.

Yn ogystal â hyn roedd gen i gof plentyn o’r Archdderwydd Elerydd, sef y Parch W. J. Gruffydd, yn weinidog yn Salem Caio, lle’r oedd Mamgu a Tadcu’n cadw’r Tŷ Capel. Profiad bythgofiadwy’n wir!