Ar gychwyn seremoni Cymru a’r Byd ar y Dydd Gwener, ymunodd rhwng pedwar a phum cant o ymgyrchwyr gwrth-niwclear ddwylo â’i gilydd gan amgylchynu’r Pafiliwn yn ôl papur Y Cymro 14eg Awst. Trefnydd yr ymgyrch oedd gweinidog lleol sef y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor. Yn gynharach cyflwynodd Grŵp Heddwch Dyffryn Teifi lythyr i Gymdeithas Alltud America yn gofyn iddynt fynd â phryder pobl yng Nghymru ynghylch nifer o agweddau ar bolisi tramor America yn ôl gyda hwy.
Arweinydd y Cymry ar Wasgar eleni oedd Helen Richards, 90 oed o Illinois, America. Ganwyd hi yng Nghellan ond bu’n byw yn America am 60 blynedd. Roedd hi’n fodryb i Eiddwen James, Llanbed. Traddododd ei hanerchiad yn y pafiliwn ac wrth son am ei hoedran, canodd y gynulleidfa ben-blwydd hapus iddi. Adroddwyd yn y Cambrian News ar 17eg o Awst bod 160 o Gymry ar Wasgar yn bresennol ar y llwyfan o 17 gwlad wahanol gyda’r mwyafrif yn dod o’r Amerig.
Arweiniodd yr Archdderwydd W J Gruffydd weddi o heddwch yn ystod y seremoni. Yn yr Evening Post ar yr 11eg o Awst, adroddwyd nad oedd hyn yn rhan o’r rhaglen wreiddiol, ond ychwanegwyd hynny wedi i gais gan CND am funud o dawelwch gael ei wrthod gan Gyngor yr Eisteddfod.
Adroddwyd yn y Western Mail ar yr 11eg Awst mai un o atyniadau mwyaf Dydd Gwener oedd Pasiant gan gant a hanner o blant meithrin o’r ardal yn Theatr Fach y Maes.
Dyma sut y croniclodd Clonc y pasiant poblogaidd:
“Y Cardi Bach oedd y thema, a’r plant wedi eu gwisgo fel defaid, cŵn, moch, gwartheg, yn adar o bob lliw – pob un yn symud yn hwylus ac yn mwynhau eu cyfraniad.
Cymaint fu’r galw am seddau fel bu rhaid gwneud dau berfformiad.”
Mewn cynhadledd ym Mhabell y Cymdeithasau brynhawn Gwener cyflwynodd Ffred Ffransis ddogfen yn datgan y gallai tynged yr iaith Gymraeg fod wedi ei phenderfynu erbyn y flwyddyn 2000. Yn ôl y ddogfen nodwyd y byddai dirywiad pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg gyda’r iaith Gymraeg yn peidio â bod yn iaith gymdeithasol fyw. Bydd cynnydd parhaus a chyflym yn nifer y dosbarthiadau newydd o bobl ddi-Gymraeg a fydd yn symud i mewn i’r pentrefi Cymraeg. O ganlyniad i’r allfudo o ddiffyg gwaith, bydd nifer y tai haf, a llawer mwy o’r perchnogion yn dod i ymddeol i’r tai hynny. Yn Nyfed bu dirywiad difrifol eisoes o’r plant Cymraeg yn yr ardaloedd Cymreiciaf – 6.3% yn nalgylch Tregaron, 5.4% yn Llambed ac 8.2% yn Nhŷ Ddewi.
Canlyniadau’r dydd: Unawd Bariton: 1. Gareth Wyn Rowlands, Dinbych; 2. Ian Hilton Woolford, Llanrwst; 3. Hywel Price, Mostyn. Adrodd 18-25: 1. Bethan Dudley Davies, Pontarfynach; 2. Rhian Mererid Williams, Aberystwyth; 3. Eirlys Non Williams, Boncath. Cyflwyniad Dysgwyr: 1. Cymdeithas y Bont, Rhyl; 2. Parti, Felinfach, Llanbed; 3. Parti CYD, Rhydypennau. Parti Cerdd Dant: 1. Parti Seirol, Bangor; 2. Blodau’r Eithin, Llangwm; 3. Parti Cymerau, Pwllheli. Unawd Canu Gwerin dros 21: 1. Joyce Smithies. Y Bala; 2. Janet Vivien, Castell Nedd; Beth Williams, Trimsaran. Unawd Tenor: 1. Glyn Williams, Porthmadog; 2. Washington James, Cenarth; 3. Philip Watkin, Llanymddyfri. Côr Madrigal: 1. Canerata UMBC, Maryland; 2. Cantorion Brianne, Llanymddyfri; 3. Côr Madrigal Hengwrt, Aberystwyth. Actio Drama Fer: 1. Aelwyd Crymych; 2. Cwmni Aeron, Ysgol Gyfun Aberaeron; Unawd Cerdd Dant dros 21: 1. Andrew O’Neill, Llanbed; 2. Glenda James, Capel Iwan; 3. Nerys Wyn Jones, Caernarfon. Unawd Mezzo-Soprano: 1. Ann Davies, Yr Wyddgrug; 2. Nia Wyn Jones, Llanfairpwll, Ynys Môn; 3. Gwynne Griffiths, Llangybi. Cyflwyniad llafar gyda chyfeiliant: 1 Parti Gwyrfai, Caernarfon; 2. Parti’r Felin, Bodffordd, Ynys Môn; 3. Merched y Garth, Pontypridd.
18,000 oedd y niferoedd a ddaeth i’r maes heddiw.
Beth oedd ‘mlaen gyda’r hwyr:
Cyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn y Pafiliwn.
Drama Gomisiwn yr Eisteddfod “Y Tadau a’n Cenhedloedd” gan Elfyn Jenkins yn Theatr Coleg Dewi Sant, Llanbed.
Cystadleuaeth Actio Drama Fer gyda Chwmni Glannau Colwyn, Cwmni Tegid a Chwmni’r Parc yn Theatr Felinfach.
Noson Cymdeithas yr Iaith yng nghwmni Ar Log a Delwyn Sion yng Nghlwb Rygbi Llanbed. £2.50
Rhydcymerau, Cyflwyniad gan Gwmni Theatr Brith Gof yn Hen Farchnad Llambed (tu ôl Neuadd y Dref). £2.00
Noson Werin Clwb Cawl a Chân yng nghwmni Pedwar yn y bar a Phenderyn yng Nghlwb Rygbi Llanybydder: £2.00
Menna Elfyn, Eirlys Parry ac Elen Thomas yn gyfrifol am “Rhyw Ddydd” gydag Iola Gregory, Sharon Morgan ac Eirlys Parry yn yr Old Quarry, Llanbed. £2.50
Noson Lawen Pwyllgor Neuadd Sant Iago Cwmann gyda Trebor Edwards, Rosalid a Myrddin a Thraed Wadin, a Sulwyn Thomas yn arwain. £2.50
Twrw Tanllyd gyda Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, Brodyr, Dorcas a Disgo Calimero ym Mlaendyffryn. £3.00
Cwmni Hwyl a Fflag / Sgwâr Un yn cyflwyno drama newydd Gareth Miles “Ffatri Serch” gyda Clive Roberts, Mari Gwilym, Eirlys Hywel, Wyn Bowen Harris a Cefin (Hapnod) Roberts yn Neuadd Ysgol Gyfun Aberaeron. £3.00
Oedfa Bregethu gyda’r Parch Gareth Davies yng Nghapel Soar, Llanbed am 8 o’r gloch.