#AtgofGen Ymgyrchwyr Gwrth-niwclear yn amgylchu’r Pafiliwn ar ddiwrnod Seremoni Cymru a’r Byd

Uchafbwyntiau Dydd Gwener Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Rhes o geir yn teithio heibio’r Ysgol Uwchradd ar eu ffordd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn 1984.

Ar gychwyn seremoni Cymru a’r Byd ar y Dydd Gwener, ymunodd rhwng pedwar a phum cant o ymgyrchwyr gwrth-niwclear ddwylo â’i gilydd gan amgylchynu’r Pafiliwn yn ôl papur Y Cymro 14eg Awst. Trefnydd yr ymgyrch oedd gweinidog lleol sef y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor.  Yn gynharach cyflwynodd Grŵp Heddwch Dyffryn Teifi lythyr i Gymdeithas Alltud America yn gofyn iddynt fynd â phryder pobl yng Nghymru ynghylch nifer o agweddau ar bolisi tramor America yn ôl gyda hwy.

Arweinydd y Cymry ar Wasgar eleni oedd Helen Richards, 90 oed o Illinois, America.  Ganwyd hi yng Nghellan ond bu’n byw yn America am 60 blynedd.  Roedd hi’n fodryb i Eiddwen James, Llanbed.  Traddododd ei hanerchiad yn y pafiliwn ac wrth son am ei hoedran, canodd y gynulleidfa ben-blwydd hapus iddi.  Adroddwyd yn y Cambrian News ar 17eg o Awst bod 160 o Gymry ar Wasgar yn bresennol ar y llwyfan o 17 gwlad wahanol gyda’r mwyafrif yn dod o’r Amerig.

Arweiniodd yr Archdderwydd W J Gruffydd weddi o heddwch yn ystod y seremoni.  Yn yr Evening Post ar yr 11eg o Awst, adroddwyd nad oedd hyn yn rhan o’r rhaglen wreiddiol, ond ychwanegwyd hynny wedi i gais gan CND am funud o dawelwch gael ei wrthod gan Gyngor yr Eisteddfod.

Adroddwyd yn y Western Mail ar yr 11eg Awst mai un o atyniadau mwyaf Dydd Gwener oedd Pasiant gan gant a hanner o blant meithrin o’r ardal yn Theatr Fach y Maes.

Dyma sut y croniclodd Clonc y pasiant poblogaidd:

“Y Cardi Bach oedd y thema, a’r plant wedi eu gwisgo fel defaid, cŵn, moch, gwartheg, yn adar o bob lliw – pob un yn symud yn hwylus ac yn mwynhau eu cyfraniad.

Cymaint fu’r galw am seddau fel bu rhaid gwneud dau berfformiad.”

Mewn cynhadledd ym Mhabell y Cymdeithasau brynhawn Gwener cyflwynodd Ffred Ffransis ddogfen yn datgan y gallai tynged yr iaith Gymraeg fod wedi ei phenderfynu erbyn y flwyddyn 2000.  Yn ôl y ddogfen nodwyd y byddai dirywiad pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg gyda’r iaith Gymraeg yn peidio â bod yn iaith gymdeithasol fyw. Bydd cynnydd parhaus a chyflym yn nifer y dosbarthiadau newydd o bobl ddi-Gymraeg a fydd yn symud i mewn i’r pentrefi Cymraeg.  O ganlyniad i’r allfudo o ddiffyg gwaith, bydd nifer y tai haf, a llawer mwy o’r perchnogion yn dod i ymddeol i’r tai hynny.  Yn Nyfed bu dirywiad difrifol eisoes o’r plant Cymraeg yn yr ardaloedd Cymreiciaf – 6.3% yn nalgylch Tregaron, 5.4% yn Llambed ac 8.2% yn Nhŷ Ddewi.

Canlyniadau’r dydd: Unawd Bariton: 1. Gareth Wyn Rowlands, Dinbych; 2. Ian Hilton Woolford, Llanrwst; 3. Hywel Price, Mostyn.  Adrodd 18-25: 1. Bethan Dudley Davies, Pontarfynach; 2. Rhian Mererid Williams, Aberystwyth; 3. Eirlys Non Williams, Boncath.  Cyflwyniad Dysgwyr: 1. Cymdeithas y Bont, Rhyl; 2. Parti, Felinfach, Llanbed; 3. Parti CYD, Rhydypennau.  Parti Cerdd Dant: 1. Parti Seirol, Bangor; 2. Blodau’r Eithin, Llangwm; 3. Parti Cymerau, Pwllheli.  Unawd Canu Gwerin dros 21: 1. Joyce Smithies. Y Bala; 2. Janet Vivien, Castell Nedd; Beth Williams, Trimsaran.  Unawd Tenor: 1. Glyn Williams, Porthmadog; 2. Washington James, Cenarth; 3. Philip Watkin, Llanymddyfri.  Côr Madrigal: 1. Canerata UMBC, Maryland; 2. Cantorion Brianne, Llanymddyfri; 3. Côr Madrigal Hengwrt, Aberystwyth.  Actio Drama Fer: 1. Aelwyd Crymych; 2. Cwmni Aeron, Ysgol Gyfun Aberaeron; Unawd Cerdd Dant dros 21: 1. Andrew O’Neill, Llanbed; 2. Glenda James, Capel Iwan; 3. Nerys Wyn Jones, Caernarfon.  Unawd Mezzo-Soprano: 1. Ann Davies, Yr Wyddgrug; 2. Nia Wyn Jones, Llanfairpwll, Ynys Môn; 3. Gwynne Griffiths, Llangybi.  Cyflwyniad llafar gyda chyfeiliant: 1 Parti Gwyrfai, Caernarfon; 2. Parti’r Felin, Bodffordd, Ynys Môn; 3. Merched y Garth, Pontypridd.

18,000 oedd y niferoedd a ddaeth i’r maes heddiw.

Beth oedd ‘mlaen gyda’r hwyr:

Cyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn y Pafiliwn.

Drama Gomisiwn yr Eisteddfod “Y Tadau a’n Cenhedloedd” gan Elfyn Jenkins yn Theatr Coleg Dewi Sant, Llanbed.

Cystadleuaeth Actio Drama Fer gyda Chwmni Glannau Colwyn, Cwmni Tegid a Chwmni’r Parc yn Theatr Felinfach.

Noson Cymdeithas yr Iaith yng nghwmni Ar Log a Delwyn Sion yng Nghlwb Rygbi Llanbed. £2.50

Rhydcymerau, Cyflwyniad gan Gwmni Theatr Brith Gof yn Hen Farchnad Llambed (tu ôl Neuadd y Dref). £2.00

Noson Werin Clwb Cawl a Chân yng nghwmni Pedwar yn y bar a Phenderyn yng Nghlwb Rygbi Llanybydder: £2.00

Menna Elfyn, Eirlys Parry ac Elen Thomas yn gyfrifol am “Rhyw Ddydd” gydag Iola Gregory, Sharon Morgan ac Eirlys Parry yn yr Old Quarry, Llanbed. £2.50

Noson Lawen Pwyllgor Neuadd Sant Iago Cwmann gyda Trebor Edwards, Rosalid a Myrddin a Thraed Wadin, a Sulwyn Thomas yn arwain. £2.50

Twrw Tanllyd gyda Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, Brodyr, Dorcas a Disgo Calimero ym Mlaendyffryn. £3.00

Cwmni Hwyl a Fflag / Sgwâr Un yn cyflwyno drama newydd Gareth Miles “Ffatri Serch” gyda Clive Roberts, Mari Gwilym, Eirlys Hywel, Wyn Bowen Harris a Cefin (Hapnod) Roberts yn Neuadd Ysgol Gyfun Aberaeron. £3.00

Oedfa Bregethu gyda’r Parch Gareth Davies yng Nghapel Soar, Llanbed am 8 o’r gloch.