Dwi ddim yn ferch i deulu eisteddfodol ond rywsut fe ddenodd y byd hwnnw fy mryd i, ac rydw i wedi bod yn joio eisteddfodau bach a mawr ers yn groten. Eisteddfodau Capel y Groes, Talgarreg a Felinfach oedd y rhai cyntaf i fentro iddyn nhw i ganu ac i adrodd, ac mae’n amlwg i fi gael blas arni, nes fy mod i wedi cael mynd gyda fy mam a mam-gu i eisteddfod ‘fowr’ Llanbed.
Roeddwn i’n lwcus fy mod i’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Trefilan ac felly yn gymwys i gystadlu yn yr adran gyfyngedig ar y dydd Sadwrn. Mi fyddwn i’n dod nôl ar y dydd Llun i gystadlu yn erbyn plant o bell ac agos. Os oeddwn i’n digwydd cyrraedd y llwyfan ar y dydd Llun, roedd hynny’n bonws, os nad yn wyrth ar adegau! Er nad oedd mam yn ‘fam eisteddfodol’ (byddwn i wedi trygo petai wedi dechrau gwneud swache arna’i), un peth pwysig ddywedodd hi wrtha’ i oedd y byddai’n stopio mynd â fi i eisteddfota petawn i’n cwyno pan fyddwn i’n colli. A do, fe golles i mwy na fy siâr, ond mae’n dda dweud i ni hala blynyddoedd hapus ar ein trafels eisteddfodol.
Ym myd y piano y gwnes i lwyddo fwyaf yn yr Eisteddfod yn y 1980au a’r 1990au. Bydd ffyddloniaid yr ŵyl hon yn cofio’n dda am Miss Eunice Jones, fy athrawes biano. Roedd hi fel mam-gu arall i fi, ac roeddwn i’n dwlu mynd ati hi a Myra i Upper Bank. Roedd y ddwy yn driw iawn i’r Eisteddfod, ac yn prynu seddau cadw – yr un seddau bob blwyddyn, sef y lle gorau iddyn nhw gael gweld y piano yn iawn. Roedd hi’n ddirgelwch i lawer fy ngweld i’n groten fach yn mynd at flaen y neuadd i gystadlu, gyda toilet roll a chopi o Yellow Pages o dan fy nghesail. Gan fy mod i’n ferch eitha byr ac yn cael ffwdan cyrraedd y pedals ar y piano, tric wnaeth Miss Jones fy nysgu i oedd rhoi toilet roll rownd y pedal, a’r Yellow Pages o dan fy sowdwl. Bingo!
Atgof arwyddocaol arall sydd gen i yw’r profiad o wneud y ddawns flodau. Mae’n dal yn arfer yn yr Eisteddfod i un o ysgolion lleol wneud y ddawns i gyfarch y beirdd buddugol. Tro Ysgol Trefilan oedd hi pan oeddwn i yn fy mlwyddyn olaf yno. Mae pawb sy’n fy adnabod i’n gwybod nad ydw i’n athletig o gwbwl. Digon posib taw fi yw’r unig un mewn hanes i dynnu muscle wrth ymarfer ar gyfer y ddawns flodau. Roedd ein prifathrawes – y diweddar Mrs Mary Jones, un o gymwynaswyr mawr yr Eisteddfod – yn heini ac yn osgeiddig yn dangos i ni’r symudiadau, ond mae’n amlwg nad oeddwn i yn 11 oed yn gallu dygymod â’r fath ystwythder!
Wedi priodi a setlo yn Llambed yn 2012, daeth cyfle i fi ymuno â’r pwyllgor gwaith. Alla’ i ddim honni fy mod i’n joio pwyllgora, ond roeddwn i’n gweld y cyfle i ymuno â’r tîm gweithgar sy’n paratoi gŵyl sy’n bwysig yn fy ngolwg i. Daeth cyfle i fod yn gadeirydd y pwyllgor gwaith erbyn Eisteddfod 2016, a bellach fi yw ysgrifennydd y pwyllgor cerdd. Roedd hi’n agoriad llygad i fi weld cymaint o waith sy’n mynd i drefnu a pharatoi’r eisteddfod hon, ac rwy’n ei chyfri hi’n fraint cael bod yn rhan o’r teulu.
Mae eisteddfodau bach Ceredigion ac Eisteddfod ‘fowr’ Llanbed wedi rhoi sgiliau a hyder i fi na fyddwn i wedi’u hennill fel arall. Hir oes i Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan, gan obeithio’n wir y cawn ni ailafael ynddi y flwyddyn nesa’.