#AtgofLlanbed – Hwyl y Cystadlu

Atgofion Twynog Davies fel Cadeirydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod Llanbed am tua 28 mlynedd.

gan Twynog Davies

Llais Llwyfan Llanbed: Gary Griffiths yn cael ei wobrwyo yn 2008 yng nghwmni (o’r chwith i’r dde) Rhiannon Lewis, Twynog Davies, Mary Jones a Richard Morgan.

Er fy mod wedi cael y fraint a’r anrhydedd o fod yn Gadeirydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod RTJ yma yn Llambed am tua 28 mlynedd a phrofi cydweithrediad tu hwnt o hapus gyda’r ysgrifenyddes y diweddar annwyl Mary Jones Landre, d’oes ddim byd tebyg wedi’r cyfan i’r wefr o gystadlu.

Côr Yr Urdd yn ennill Prif Gystadleuaeth Gorawl Eisteddfod Llanbed.

Yn ystod yr wythdegau cynnar a minnau yn arwain Côr Plant yr Urdd a Chôr Cymysg Penparc a’r Cylch ger Aberteifi, dyma benderfynu bod rhaid cefnogi holl Eisteddfodau Pantyfedwen a phrofi gryn bleser a llwyddiant. Tua 1981, llwyddwyd i ennill y brif gystadleuaeth gorawl yn Eisteddfod Llambed a llwyddo i wneud yr un gorchwyl gyda Chôr Penparc a’r Cylch allan o bump o gorau’r flwyddyn ganlynol. ‘Roedd yn gyfnod euraidd i mi yn bersonol yn ystod yr adeg hynny. O ran diddordeb, Côr Plant yr Urdd ganodd y dôn fuddugol Luned o waith Eric Jones am y tro cyntaf o lwyfan yr eisteddfod – tôn sydd wedi ymddangos o ran diddordeb ar un o CD’s Syr Bryn Terfel.

Côr Penparc a’r Cylch, enillwyr cyson a chefnogwyr Eisteddfod Llanbed ac enillwyr y Brif Gystadleuaeth Gorawl.

Yn 1996, penderfynwyd cynnal cystadleuaeth Eisteddfod Llanbed i ganu un o emyn donau W Llewelyn Edwards, Bow Street dan 60 oed, enillydd cyson yn ein heisteddfod yma. Dyma fentro arni a chyflwyno un o’i emyn dôn hyfrytaf Bron Rhiwel. Y diweddar annwyl Yolande Jones oedd yn beirniadu a bu yn garedig iawn wrth draddodi’r enillydd!! Yr unig dro arall i mi gystadlu oedd yn y blynyddoedd diwethaf gyda phedwarawd Gernant a chael llawer o hwyl a llwyddiant a phenderfynu fod unrhyw wobr yn cael ei rhoi yn ôl at ryw achos da. Ie yn wir, d’oes ddim byd tebyg i’r wefr o gystadlu.

Mae Llais Llwyfan Llanbed wedi llwyddo i ddenu rhai o gantorion mwyaf disglair ein cenedl a nifer ohonynt wedi datblygu i fod yn gantorion proffesiynol. Mae yna un achlysur diddorol yn dod i’r cof. Yn ystod Eisteddfod Maldwyn yn 2003, ‘roedd Hazel a minnau yn aros yn Llanfair Caereinion. Ar ôl swper un noson, dyma benderfynu mynd am dro i weld yr Eglwys a chyfarfod yn y fynwent mam a merch yn edrych braidd ar goll. Enw’r ferch oedd Nicola Jayne Hughes ac yr oedd am gystadlu yn yr eisteddfod. Dyma awgrymu iddi y dylai ddod i Lambed ar y nos Sul ar gyfer Llais Llwyfan Llanbed. A pwy feddyliwch chi enillodd y gystadleuaeth yn 2003 – ie yn wir, y ferch o Gastell-nedd Nicola Jayne Hughes. Tybed beth yw ei ffawd y dyddiau yma?

Ein gobaith yw y bydd ein heisteddfod yn ôl yn ei holl ogoniant y flwyddyn nesaf. Pob dymuniad da i Rhiannon Lewis sydd bellach wedi bodloni i gymeryd at y dyletswyddau o Gadeirydd Cerdd ac mi fydd y cyfan fel y gwyddom mewn dwylo diogel.