#AtgofLlanbed – sgleiniais nifer o gwpanau yn fy nhro.

Elsie Reynolds yn edrych nôl ar Eisteddfod Llambed, a chywydd gan ei gŵr Idris Reynolds.

gan Elsie Reynolds

Mae wedi bod yn ddifyr yn darllen atgofion am Eisteddfod Rhys Thomas James (Pantyfedwen) Llanbedr Pont Steffan. Trwy hynny daw llif o atgofion i’r meddwl o’r cychwyn cyntaf fel negesydd y tu cefn i’r llwyfan. Plentyn ysgol oeddwn ni ac roedd asbri mawr yn yr ysgol o ddeall fod Eisteddfod i’w dechrau (neu ei hatgyfodi) yn y dref. Anogwyd ni i gyd fel disgyblion i gefnogi ym mhob dull posib. Ac felly negesydd yn cario’r canlyniadau, gyda siars i beidio eu hagor, nôl i gefn y llwyfan yn y pafiliwn mawr at y Prif Stiward, Olifer Williams.

Treuliais flynyddoedd wedyn yn stiwardio. Cofiaf yn iawn eistedd am oriau mewn rhagbrawf cerdd dant gyda Bethan Bryn wrth y delyn. Fe sicrhaodd Bethan chwarae teg i bob plentyn drwy roi cyfle iddynt gael y nodyn cywir a bod yn gysurus cyn dechrau. Cyfle arbennig i bob plentyn, yn enwedig y rhai llai cyfarwydd a chystadlu. Cofiaf hefyd yr her o gael y cystadleuwyr i’r stafell i gystadlu gan nad oeddent eisiau bod yn gyntaf, a nid y cystadleuwyr oedd ar fai bob amser.

Braf oedd gweld cystadleuwyr yn dychwelyd o flwyddyn y flwyddyn a’u gweld hefyd yn symud ymlaen gan ennill yn eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol yn eu tro. Cydnabu nifer ohonynt Eisteddfodau, megis un Llanbed, am roi cyfle iddynt. Gellid enwi degau ohonynt ac nodwyd nifer eisoes gan eraill. Yn yr eisteddfod olaf, rwy’n credu, a gynhaliwyd yn y pafiliwn ar gaeau’r ysgol, cofiaf Eic Davies yn adrodd digri gan gofio hyd heddiw yr hwyl a gafodd Beryl (Jones), Eryl (Jones) a finne gyda’r ‘cwpwrdd cwt ceilog’. Mae’n anodd iawn cael adroddiad ac adroddwyr digri ac erbyn hyn prin yw’r grefft ond deil lle i ysgafnder. Peter Goginan ac Alun James yn ddau arall fu ar lwyfan Llambed mewn llawer eisteddfod. Cofio hefyd Alun Cairns a’i chwaer Bethan yn cystadlu. Roedd hi yn braf fod cynifer o blant lleol wedi dechrau yn Llambed a bu llawer oes aur yn ystod yr hanner canrif sydd wedi mynd heibio.

Gyda stiwardio bum hefyd yn teipio’r rhaglen ar gyfer y wasg ac yn aelod o’r pwyllgor llen ac adrodd cyn cymryd ysgrifenyddiaeth y pwyllgor adrodd o 1988 hyd 2003. Roedd cymdeithas ystafell y stiwardiaid yn gymdogol a chlos ac roedd cydweithio gyda Goronwy, Edwin, Dr Williams, Twynog ac yna Mary bob amser yn bleser. Roedd yn gas gan Dr Williams feirdd a barddoniaeth a phan fyddai Edwin yn cyrraedd y swyddfa gyda’i friff ces lledr byddai Dr Williams yn dianc gan fod y ‘poets’ wedi cyrraedd.  Ond byddai bob amser yn mwynhau’r cacennau. Ond canu a chanu ac offerynau cerdd oedd ei bethau a phopeth yn iawn am hynny. Yn ystod y bymtheg blynedd bum yn ysgrifennydd adrodd cefais gefnogaeth beirniaid arbennig ac nid oedd hi byth yn anodd cael iddynt dderbyn y gwahoddiad i Lambed ar Ŵyl Banc Awst a diolch yn fawr iddynt am wneud. Byddai’n eisteddfod ddiflas hebddynt.

Ysgrifennais fwy nag un araith Maer i agor yr eisteddfod a sgleiniais nifer o gwpanau yn fy nhro. Llenwais hefyd y llyfr lloffion ar fwy nag un achlysur.

Y Babell Len oedd fy lle i ar y nos Lun ac er fod honno wedi symud sefyllfa o’r ysgol uwchradd (pan adleolwyd yr eisteddfod) i Soar (a phwy all anghofio’r seddau yno) ac yn ôl a blaen i Shiloh yno yr wyf ar nos Lun Banc Awst hyd heddiw. Tawel fydd Gŵyl Banc 2020 ond daw’r bwrlwm a’r hwyl nôl yn 2021. Eto mae’r Talwrn yn haeddu’i le yn hyn o atgofion ac yr oedd yn rhaid i’r beirniaid llen ‘ffitio ein heisteddfod fach ni’ chwedl Edwin. Sefydlodd Edwin Babell Len broffesiynol sy’n cael ei chanmol gan feirdd ar hyd Cymru a deil yr un drefn tan heddiw. Daeth enwau mawr y genedl i gefnogi’r eisteddfod, a chefnogi oeddent yn eu wneud o barch at, ac ar gais, Edwin. Mae’n bosib fod y beirdd cadeiriol a choronog wedi cystadlu yn Llambed yn eu tro a nodwyd eu henwau i gyd yn y rhaglenni. Bu Idris yn ysgrifennydd llen am 15 mlynedd ond erbyn hyn cefnogi a mwynhau’r arlwy a wnawn ni’n dau yn bennaf.

Mae enwau a wynebau niferus yn dod i’r meddwl a thebyg fod storïau difyr hefyd ond gorffennaf hyn o gyfraniad gyda chywydd Idris i’r Eisteddfod pan oeddwn yn Llywydd y Dydd yn 1993:

Y mae afon a’i thonau

Drwy ein gŵyl, drwy’r dre yn gwau

Ei hawen yn ddolennog,

A hen iaith rhyw Dir-na-Nog

Ddaw o hud dyfnderoedd hon

Yn loywach ei halawon;

Ein gŵyl ni a’i geliw’n ôl

Yn nhes y glannau oesol.

 

Asio’u cerdd i’w miwsig hi

Wna’r to ifanc ger Teifi,

Uno’r delyn a’r dolydd

I si y dŵr nos a dydd,

Cans glasach, gwyrddach yw’r gân

A’r llif yn iro’r llwyfan,

A dear fras ydyw’r fro

Fu’n un â’r afon honno.

 

Eleni, hyd ei glannau

Yn llên hon, ‘rwy’n llawenhau,

Llawenhau’n ei llanw hi,

Yn harddwch llyfn ei cherddi.

Ger yr afon ymlonnaf,

Yma o hyd golud gaf

Gan fod yr Ŵyl annwyl hon

Yn ŵyl i godi’r galon.

Gan edrych ymlaen at Ŵyl y Banc 2021.