Banciau bwyd, clinigau iechyd a meithrinfeydd yn parhau ar agor

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ar drothwy’r cyfnod clo newydd sy’n dod i rym o 6 o’r gloch heno (Hydref, 23) a fydd yn parhau hyd at ddydd Llun Tachwedd 9fed, mi fydd lleoliadau sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd yng Ngheredigion yn parhau ar agor.

Mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau gofal plant fel meithrinfeydd, banciau bwyd a chlinigau iechyd.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mi fydd rhaid i ganolfannau cymunedol, neuaddau pentref, eglwysi a chapeli gau eu drysau dros y cyfnod.

Mae’r Cyngor yn annog unrhyw un sydd â chwestiwn cyffredinol neu ymholiad ynglŷn ag os gellir cynnal eich gweithgarwch yn ystod y cyfnod atal byr i gysylltu.

Mae’r holl wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys canllawiau ar gyfer lleoliadau cymunedol a gwybodaeth gyswllt y Cyngor Sir Ceredigion ar gael ar gael yma.