Mae Gan Bawb Ofidiau

Llyfr newydd yn trafod gofidiau plant ynghanol y pandemig

Wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol mewn cwta wythnos, mae llyfr newydd yn trafod eu gofidiau nhw ynghylch y pandemig Covid-19.

 

Bydd llyfr Jon Burgerman, Everybody Worries yn cael ei gyhoeddi gan gwmni Rily o Gaerffili dan y teitl Mae gan Bawb Ofidiau.

Y nod, meddai Llinos Dafydd o Landysul a addasodd y llyfr, fydd mynd i’r afael â’r emosiynau y mae’r Coronafirws wedi’u cymell.

“Wrth i rai o blant Cymru ddychwelyd i’w hysgolion, fel mam i bedwar o blant rydw i’n ymwybodol o’r cyfnod dyrys, cymhleth a dryslyd hwn sydd wedi eu hwynebu dros y tri mis diwethaf,” meddai.

“Mae’r firws wedi effeithio ar bob agwedd o fywydau ein plant, o’r lleiaf i’r hynaf. Y rhai pitw bach a dreuliodd brynhawniau yn yr haul yn peintio enfys, gan ofyn pryd y byddan nhw’n cael cwtsh gyda Mam-gu, a dod i dderbyn fod golchi dwylo ugain gwaith y dydd yn hollol normal.

“A’r cewri chwe throedfedd a fethodd sefyll arholiadau y buon nhw’n paratoi tuag atynt am flynyddoedd, y rhai a dreuliodd oriau ar Facetime yn cysylltu gyda ffrindiau o’r stryd nesaf, a’r rhai a deimlodd wewyr, a hiraeth cwtsh gyda’u cariad cyntaf.

“Plant ydyn nhw i gyd, ac maen nhw wedi arddangos gwydnwch, cryfder ac aeddfedrwydd yn wyneb digwyddiad hanesyddol a drodd ein byd ben i waered.”

Daw’r gair Coronafirws â llu o deimladau ac emosiynau, a bydd y llyfr yn help i rieni drafod rhai o’r teimladau dyrys hyn gyda’u plant, meddai.

Y gobaith yw y bydd yn fodd o gyflwyno syniadau, a chysyniadau newydd neu gymhleth i blant bach, meddai Cyfarwyddwr Rily, Lynda Tunnicliffe.

“Mae hi wedi bod yn gyfnod heriol iawn i bawb,” meddai. “O’n rhan ni fel cyhoeddwyr, rydym wedi gorfod ail feddwl sut rydyn ni’n gweithio o ddydd i ddydd, ac wedi cynyddu ein presenoldeb ar-lein er mwyn cyrraedd ein darllenwyr.

“Penderfynon ni mai’r ffordd orau i gynhyrchu’r gyfrol hon oedd drwy gyfrwng ffilm, a rhoi hwnnw ar-lein, am ddim, fel y gall plant a’u rhieni gael gafael arno’n hawdd.

“Fel rhiant fy hun, dwi’n gwybod pa mor hanfodol yw hi fod plant yn dod i ddeall yr hyn sy’n digwydd iddynt, fel y gallant brosesu, a dod i delerau gydag unrhyw emosiynau newydd.

“Dwi’n teimlo bod y llyfr hwn yn mynd i’r afael â Cornonafirws mewn ffordd sensitif, a hawdd i’w ddeall, tra’n hoelio sylw darllenydd bach o’r dechrau i’r diwedd.

“Mae’r darluniau’n eiconig ac yn nodweddiadol o arddull Jon Burgerman, ac rydym yn hapus iawn o weithio gyda OUP ar y llyfr hwn.”

 

Mae e-lyfr y fersiwn wreiddiol Saesneg, Everybody Worries, ar gael am ddim gan Oxford University Press, https://home.oxfordowl.co.uk/