Beth yw’r trefniadau casglu sbwriel dros yr Ŵyl?

Pryd fydd sbwriel y Nadolig yn cael ei gasglu yn lleol eleni?

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Oes mwy o sbwriel yn eich tŷ chi dros gyfnod y Nadolig nag ar unrhyw adeg arall o’r flwyddyn?  Ydych chi wedi cael amser i glyrio ychydig?

Felly beth yw’r trefniadau casglu sbwriel dros yr Ŵyl?  Oes yna newidiadau i’r dyddiau casglu sbwriel arferol?

Yng Ngheredigion, bydd casgliadau gwastraff fel yr arfer bob dydd oni bai am Ddydd Nadolig a Dydd Calan.  Bydd y casgliadau yna ar Ddydd San Steffan ac ar Ddydd Sadwrn yr 2il o Ionawr yn lle hynny.  Ceir mwy o wybodaeth ar wefan y cyngor.

Mae preswylwyr yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hatgoffa bod newidiadau i drefniadau casglu biniau dros y Nadolig hefyd – ond yn debyg i Geredigion, dim ond i’r rhai sydd â chasgliadau ar ddydd Gwener.

Bydd biniau sydd i’w casglu ddydd Nadolig yn cael eu casglu ddydd Sul 27 Rhagfyr. Bydd biniau sydd i’w casglu ddydd Calan yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Bydd y trefniadau casglu arferol ar waith ar bob diwrnod arall.

Gofynnir i breswylwyr Sir Gaerfyrddin roi eu biniau mas y noson gynt gan y gallai casgliadau ddigwydd yn gynt nag arfer.  Ceir mwy o wybodaeth ar wefan y cyngor.

Mewn neges trydar a facebook, dywedodd Elin Jones, Llywydd Senedd Cymru “Dyma wasanaeth ardderchog gan y gweithwyr gwastraff.  Diolch iddynt.”

O ran oriau agor Nadolig Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llanbed gyda LAS ar Ffordd Tregaron, cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion y bydd y Ganolfan ar agor rhwng 9:00 a 17:00 ar wahân i Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig a Dydd Calan, yn ystod y cyfnod clo presennol.

Mae rheolau newydd ar waith er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch trigolion yn ogystal â staff yn y Ganolfan Ailgylchu dros y cyfnod clo.  Dim ond cerbydau sydd ag eilrif yn eu rhifau cofrestru fydd yn gallu cael mynediad i’r Ganolfan Ailgylchu ar ddyddiadau sy’n eilrifau (e.e. 2, 4, 6, 8, 10, 12 ayb.).  Dim ond cerbydau sydd ag odrif yn eu rhifau cofrestru fydd yn gallu cael mynediad ar ddyddiadau sy’n odrifau (e.e. 1, 3, 5, 7, 9, 11 ayb.).