Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.
Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.
- Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen.
? Datganiad gan Hannah James ar ran caffi Mark Lane, Llanbedr Pont Steffan
Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn monitro’r sefyllfa
“Rydym yn monitro’r sefyllfa’n barhaus ac mewn cysylltiad dyddiol gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid allweddol.
“Ar hyn o bryd, ein gobaith yw cynnal Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron o 1-8 Awst, ac mae’r staff yn parhau i weithio’n galed er mwyn gwireddu hyn.”
Cyhoeddwyd argraffiadau am effeithiau y Coronafeirws ar yr ardal ar wefan Clonc360 ddydd Sul.
Y Coronafeirws a ni yn yr ardal hon.
Dim dirwyon llyfrgell am 3 mis
Mae Llyfrgell Ceredigion wedi cyhoeddi na fydd neb yn wynebu dirwyon am ddychwelyd llyfrau yn hwyr dros y 3 mis nesaf.
Mewn datganiad dywedodd Llyfrgell Ceredigion:
“Dydy ni ddim am i bobol boeni am ddychwelyd llyfrau yn hwyr dros y cyfnod hwn, felly ar gyfer y 3 mis nesaf ni fyddwn yn rhoi dirwy i neb. Os ydych angen adnewyddu eich llyfrau neu edrych ar fenthyg e-lyfrau neu e-lyfrau siarad ffoniwch un o’n llyfrgelloedd am fwy o wybodaeth.”
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma
Diweddariad Coronafeirws gan Ben Lake
‼️ Coronavirus – COVID-19: Tuesday, March 17th interim updateI have received a number of messages from individuals and…
Posted by Ben Lake – Ceredigion on Tuesday, 17 March 2020
? Fferyllfa Adrian Thomas, Llanbedr Pont Steffan: trefniadau arbennig i agor dyddiau Sul, rhwng 11 a 2. Sylwer ar y manylion ar dudalen facebook Adrian Thomas https://www.facebook.com/286186291777110/posts/1039213283141070/
?Ni fydd oedfa Ysgol Sul Noddfa, Llanbedr Pont Steffan ddydd Sul yma, 22 Mawrth.
?Hefyd, mae Noson Gymdeithasol cangen Llambed Plaid Cymru ar 24 Ebrill wedi’i ohirio – dyddiad newydd i’w drefnu.
Ni fydd Oedfa yng Nghapel Bethel Parc-y-rhos tan ddiwedd mis Ebrill oherwydd y Coronafeirws. Ceir manylion pellach ar y wefan www.bethel.btck.co.uk
£200m i helpu busnesau bach
Llywodraeth Cymru’n yn cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £200m i helpu busnesau bach sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws.
Fe fydd siopau a busnesau hamdden a lletygarwch sydd â gwerth trethiannol o £51,000 neu lai yn derbyn cymorth cyfraddau busnes llawn.
Fe fydd busnesau â gwerth trethiannol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000 oddi ar eu cyfraddau busnes.
Darllenwch mwy am hyn ar Golwg360
Coronafeirws: neilltuo £200m i helpu busnesau bach #newyddion https://t.co/ndCImX9E43
— golwg360 (@Golwg360) March 17, 2020
Yn y cyfnod rhyfedd a diflas ma, beth os wnewn ni gasglu yr holl enghreifftiau o bobol sy'n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau? ?
Falle gall rhannu ysbrydoli eraill… rhywun am ddechrau pethau bant?
— ? Bro360 (@Bro__360) March 16, 2020