BLOG BYW: Ymateb Llanbed a’r fro i helynt y coronafeirws

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.

Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.

  • Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen.

10:28

Cyhoeddiad y Prif Weinidog, Boris Johnson

Neithiwr (dydd Llun, Mawrth 16), cyhoeddodd y Prif Weinidog, Boris Johnson gyfres o fesurau i geisio mynd i’r afael a’r coronafeirws.

  • Dylai pawb osgoi tafarndai, clybiau a theatrau.
  • Ddylai pawb osgoi unrhyw gysylltiad gyda phobl eraill sydd ddim yn angenrheidiol
  • Dylai pobl dros 70 oed, menywod beichiog a phobl sydd â chyflyrau iechyd, osgoi cysylltiad cymdeithasol gyda phobl eraill cymaint a phosib.
  • Osgoi unrhyw deithio nad oes angen.
  • Y Prif Weinidog yn argymell gweithio o adref os yn bosib.
  • Dylai unrhyw un sy’n byw gyda rhywun sydd a pheswch parhaus neu dymheredd ynysu eu hunain am 14 diwrnod.

Daw’r mesurau newydd wedi i’r claf cyntaf yng Nghymru farw o’r coronafeirws. Roedd y claf yn 68 oed ac wedi bod yn cael triniaeth yn Ysbyty Wrecsam Maelor.

£475m i Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi o leiaf £1.5bn i’r llywodraethau datganoledig i sicrhau bod ganddyn nhw’r adnoddau i helpu pobl a busnesau wrth ymateb i Covid-19.