Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.
Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.
- Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen.
?Ni fydd oedfa Ysgol Sul Noddfa, Llanbedr Pont Steffan ddydd Sul yma, 22 Mawrth.
?Hefyd, mae Noson Gymdeithasol cangen Llambed Plaid Cymru ar 24 Ebrill wedi’i ohirio – dyddiad newydd i’w drefnu.
Ni fydd Oedfa yng Nghapel Bethel Parc-y-rhos tan ddiwedd mis Ebrill oherwydd y Coronafeirws. Ceir manylion pellach ar y wefan www.bethel.btck.co.uk
£200m i helpu busnesau bach
Llywodraeth Cymru’n yn cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £200m i helpu busnesau bach sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws.
Fe fydd siopau a busnesau hamdden a lletygarwch sydd â gwerth trethiannol o £51,000 neu lai yn derbyn cymorth cyfraddau busnes llawn.
Fe fydd busnesau â gwerth trethiannol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000 oddi ar eu cyfraddau busnes.
Darllenwch mwy am hyn ar Golwg360
Coronafeirws: neilltuo £200m i helpu busnesau bach #newyddion https://t.co/ndCImX9E43
— golwg360 (@Golwg360) March 17, 2020
Yn y cyfnod rhyfedd a diflas ma, beth os wnewn ni gasglu yr holl enghreifftiau o bobol sy'n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau? ?
Falle gall rhannu ysbrydoli eraill… rhywun am ddechrau pethau bant?
— ? Bro360 (@Bro__360) March 16, 2020
Cyhoeddiad y Prif Weinidog, Boris Johnson
Neithiwr (dydd Llun, Mawrth 16), cyhoeddodd y Prif Weinidog, Boris Johnson gyfres o fesurau i geisio mynd i’r afael a’r coronafeirws.
- Dylai pawb osgoi tafarndai, clybiau a theatrau.
- Ddylai pawb osgoi unrhyw gysylltiad gyda phobl eraill sydd ddim yn angenrheidiol
- Dylai pobl dros 70 oed, menywod beichiog a phobl sydd â chyflyrau iechyd, osgoi cysylltiad cymdeithasol gyda phobl eraill cymaint a phosib.
- Osgoi unrhyw deithio nad oes angen.
- Y Prif Weinidog yn argymell gweithio o adref os yn bosib.
- Dylai unrhyw un sy’n byw gyda rhywun sydd a pheswch parhaus neu dymheredd ynysu eu hunain am 14 diwrnod.
Daw’r mesurau newydd wedi i’r claf cyntaf yng Nghymru farw o’r coronafeirws. Roedd y claf yn 68 oed ac wedi bod yn cael triniaeth yn Ysbyty Wrecsam Maelor.
£475m i Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi o leiaf £1.5bn i’r llywodraethau datganoledig i sicrhau bod ganddyn nhw’r adnoddau i helpu pobl a busnesau wrth ymateb i Covid-19.