BLOG BYW: Ymateb Llanbed a’r fro i helynt y coronafeirws

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.

Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.

  • Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen.

13:01

Rydym wedi rhannu rhagor o gyn rifynnau Papur Bro Clonc ar ein gwefan. Gall bori drwyddynt fod yn eithaf diddorol. Rhywbeth i’ch diddanu’n tra’n hunanynysu.

www.clonc.co.uk

12:40

Gwerthir 380 o wartheg ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn 11eg o Ebrill o dan fesurau caeth rheolau iechyd a diogelwch. Bydd y prynwyr i gyd yn bresennol ond y gwerthwyr i adael eu gwartheg yno a mynd. Gobaith Evans Bros yw darlledu’r arwerthiant yn fyw ar y we.

17:00

20:44

Mae Evans Bros wedi cyhoeddi y cynhelir Marchnad Defaid yn Llanybydder ar y 6ed o Ebrill, ond gorfodir rheolau llym er lles iechyd pawb.

Ni chaniateir y perchnogion yn y farchnad o gwbl, dim ond prynwyr yn yr adraloedd gwerthu.  Mwy o fanylion ar y poster.

18:33

Os ydych yn cael ffwdan argraffu copi o rifyn digidol Papur Bro Clonc ar gyfer darllenwyr heb offer digidol, mae siop Y Stiwdio Brint, Llanbed yn gallu helpu.

Er bod y siop ar gau, mae Ashley yn galw mewn o bryd i’w gilydd er mwy  siecio ar y peiriannau.  Gallwch drefnu cwrdd ag e yno pan fydd yn mynd i’r siop a gall argraffu copi i chi am dâl fach.  Cysylltwch ag Ashley ar 07811 767563 i weld pryd fydd e yno nesaf, a chofiwch gadw pellter cymdeithasol.

21:22

J H Roberts a’i feibion
Mae’r siop ar gau dros dro, ond yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth, hoffwn eich hysbysu y byddwn ar gael yno i dderbyn galwadau ffôn (01570 422055) rhwng 10yb a 1yp ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener i gwsmeriaid sydd mewn sefyllfa o argyfwng ac sydd angen nwyddau allweddol i’r cartref yn unig. Gallwch gysylltu â ni ar ein tudalen Facebook unrhyw amser.

Diolch a chadwch yn saff,

Alwyn ac Alwena.

(rhagor…)

09:15

Mae Gŵyl Fwyd Llanbed eleni wedi’i ganslo.

11:42

Ma rhaid i Gyngor Cymuned Llanybydder ddilyn guidelines o’r awdurdod lleol a’r llywodraeth.

Oherwydd hyn yn anffodus ma rhaid i ni gau y Parc sydd yn y ddau bentref.

Ma ddrwg gennym ein bod yn gorfod neud hyn ond fe helpith stopio y firws rhag lledaenu.

#PlisAroshwchGartref

10:54

‪Does dim Gwasanaeth Rhoi Gwaed yn Llanbed heddiw. Y cyfle nesaf fydd yr 21ain Ebrill yn Nhregaron.‬

21:42

Lledwch y neges!
Ni yma i’ch helpu a bod o gymorth mewn amser anodd!
Cysylltwch!