BLOG BYW: Ymateb Llanbed a’r fro i helynt y coronafeirws

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.

Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.

  • Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen.

09:15

Mae Gŵyl Fwyd Llanbed eleni wedi’i ganslo.

11:42

Ma rhaid i Gyngor Cymuned Llanybydder ddilyn guidelines o’r awdurdod lleol a’r llywodraeth.

Oherwydd hyn yn anffodus ma rhaid i ni gau y Parc sydd yn y ddau bentref.

Ma ddrwg gennym ein bod yn gorfod neud hyn ond fe helpith stopio y firws rhag lledaenu.

#PlisAroshwchGartref

10:54

‪Does dim Gwasanaeth Rhoi Gwaed yn Llanbed heddiw. Y cyfle nesaf fydd yr 21ain Ebrill yn Nhregaron.‬

21:42

Lledwch y neges!
Ni yma i’ch helpu a bod o gymorth mewn amser anodd!
Cysylltwch!

20:41

Darparu gofal i blant gweithwyr allweddol Sir Gaerfyrddin

Yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch cau ysgolion, mae angen darparu gwasanaethau gofal plant i sicrhau parhad gwasanaethau rheng flaen.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi mesurau ar waith i agor nifer cyfyngedig o ysgolion i ddarparu gofal i blant gweithwyr allweddol o ddydd Llun, Mawrth 23.

Mae’n hanfodol bwysig bod rhieni yn dilyn cyngor y Llywodraeth ac yn cadw eu plant gartref lle bo modd i helpu i atal lledaeniad coronafeirws (Covid-19).

Os yw eich gwaith yn hollbwysig i’r ymateb i COVID-19 neu os ydych yn gweithio yn un o’r sectorau critigol a restrir isod, ac nad yw eich plentyn yn gallu aros gartref, yna rhoddir blaenoriaeth i’ch gofal plant.

  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Addysg a gofal plant
  • Gwasanaethau cyhoeddus allweddol
  • Llywodraeth leol a chenedlaethol
  • Bwyd a nwyddau angenrheidiol eraill
  • Diogelwch y cyhoedd a diogelwch cenedlaethol
  • Trafnidiaeth
  • Cyfleustodau, cyfathrebu a gwasanaethau ariannol

Canolfannau gofal plant

Darperir gwasanaethau gofal plant o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am – 6pm o’r dyddiadau a nodir yn y lleoliadau canlynol:

O ddydd Llun, Mawrth 23 (plant 4 – 12 oed)

O ddydd Mercher, Mawrth 25 (plant 0* – 12 oed)

*Ar gyfer plant 0-3 oed rhoddir help rhieni i ddod o hyd i leoedd gofal plant gyda darparwyr gofal plant cofrestredig yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu’n barhaus a bydd darpariaeth ychwanegol yn y dyfodol yn seiliedig ar y galw.

Sut i gofrestru ar gyfer gofal plant

Os ydych yn weithiwr allweddol a bod angen gofal plant arnoch, llenwch y ffurflen archebu isod. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch wedyn i gadarnhau bod lle gan eich plentyn/plant. Mae’n bwysig iawn nad yw rhieni yn dod i’r canolfannau os nad ydynt wedi derbyn e-bost cadarnhau.

Mae’n anodd iawn gwybod ar hyn o bryd faint o alw fydd, a rhoddir mesurau hyn ar waith yn gyflym iawn. Bydd y Cyngor Sir yn gwneud ei orau i ddarparu ar gyfer cynifer o blant ag y gallant, ond gofynnir i rieni fod yn amyneddgar wrth i ni roi’r trefniadau hyn ar waith.

Y nod yw datblygu gwasanaeth cynaliadwy fel y gellir sicrhau darpariaeth barhaus ar adeg ansicr ac anodd.

Bydd angen llenwi ffurflen archebu bob wythnos i wneud cais am ddarpariaeth gofal plant ar gyfer yr wythnos ganlynol. Hysbysir rhieni cyn gynted â phosibl erbyn pryd y bydd angen y wybodaeth hon arnom.

Cwblhewch y ffurflen ar wefan y cyngor erbyn 2pm ddydd Sadwrn, 21 Mawrth i gael gofal plant ar gyfer dydd Llun a dydd Mawrth wythnos nesaf.

20:31

Coronafeirws: Gwasanaethau Gwastraff Cyngor Sir Ceredigion

20 Mawrth 2020

Yn sgil y sefyllfa sy’n newid yn gyflym mewn perthynas â’r Coronafeirws, bydd y canlynol yn cael eu rhoi ar waith ynghylch y Gwasanaethau Gwastraff.

  1. O ddiwedd y dydd, ddydd Sul 22 Mawrth 2020, bydd y Safleoedd Gwastraff Cartref canlynol a weithredir ar ran Cyngor Sir Ceredigion yn cau hyd nes y ceir hysbysiad pellach:
  • Aberystwyth
    Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. SY23 3JQ
  • Aberteifi
    Cilmaenllwyd, Penparc, Aberteifi. SA43 1RB
  • Llanbedr Pont Steffan
    Yr Ystâd Ddiwydiannol, Ffordd Tregaron, Llanbedr Pont Steffan. SA48 8LT
  • Llanarth
    Rhydeinon, Llanarth. SA47 0QP
  1. O ddiwedd y dydd, ddydd Gwener 20 Mawrth 2020, bydd pob gwasanaeth casglu Gwastraff Cartref Swmpus a Gwastraff Gardd yn cael eu gohirio hyd nes y ceir hysbysiad pellach.
  2. O ddiwedd y dydd, ddydd Gwener 20 Mawrth 2020, hyd nes y ceir hysbysiad pellach, ni fyddwn yn derbyn ceisiadau newydd ar gyfer cadis bwyd na bocsys gwydr.
  3. Byddwn yn parhau i ymdrechu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff craidd fel yr hysbyswyd.
    • Rhoddir blaenoriaeth i gasgliadau gwastraff gweddilliol (bagiau duon), gwastraff bwyd a Chynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP).
    • Os nad yw hi’n bosib darparu casgliadau fel yr hysbyswyd, cadwch eich gwastraff yn eich cartref ac arhoswch am wybodaeth bellach.
  1. Helpwch ni i ddiogelu ein staff casglu gwastraff drwy wneud y canlynol:
  • Rhoi eich holl wastraff personol (megis hancesi wedi’u defnyddio) a chadachau glanhau yn eich bag du a chlymu’r bag.
  • Clymu bag sbwriel ychwanegol o amgylch eich holl wastraff.
  1. Bwriedir darparu cyflenwad o fagiau ailgylchu clir a leinwyr bin bwyd i leoliadau yn y gymuned gan gynnwys:
    • Banciau Gwydr Cymunedol
    • Y tu allan i swyddfeydd canlynol y Cyngor:
  • Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA
  • Aberystwyth, Swyddfeydd y Cyngor, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE
  • Llanbedr Pont Steffan, Swyddfeydd y Cyngor / Llyfrgell, Swyddfeydd y Cyngor, Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7DS
  • Aberaeron, Swyddfeydd y Cyngor / Llyfrgell, Neuadd y Sir, Heol y Farchnad, Aberaeron, SA46 OAT
  • AberteifiSwyddfeydd y Cyngor / Llyfrgell, Swyddfeydd y Cyngor, Stryd Morgan , Aberteifi, SA43 1DG

er mwyn i’r cyhoedd gael rhagor o gyflenwadau. Bydd y rhain yn cael eu rhoi mewn biniau olwynion ar y safleoedd hyn, a byddant wedi’u dynodi’n glir.

DEFNYDDIWCH Y RHAIN YN GYNNIL A CHYMERWCH YR HYN SYDD EI ANGEN ARNOCH YN UNIG! Byddwn yn ceisio darparu rhagor o gyflenwadau lle bo hynny’n bosib. Rydym yn gobeithio y bydd y cyflenwadau ar gael erbyn diwedd yr wythnos sy’n dechrau 23 Mawrth 2020.

Estynnwn ein diolch diffuant i’r holl drigolion am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth. Drwy weithio gyda ni yn ystod y cyfnod anodd hwn, gallwn sicrhau bod gwahanol fathau o wastraff yn cael eu rheoli cystal â phosib a bod Ceredigion yn cael ei chadw’n lân.

Byddwn yn ceisio darparu rhagor o wybodaeth a chyngor pan fo hynny’n bosib er mwyn ymateb i newidiadau yn y sefyllfa.

20:22

Darpariaeth gofal plant i weithwyr gwasanaethau rheng flaen yng Ngheredigion

20 Mawrth 2020

Mae trefniadau yn cael eu rhoi ar waith er mwyn darparu gwasanaethau gofal plant i weithwyr rheng flaen yng Ngheredigion.

Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd ysgolion yn cau o fewn y Sir, mae angen gwasanaethau gofal plant er mwyn sicrhau parhad y gwasanaethau rheng flaen.

I ddechrau, Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried mai gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, Gwasanaethau Cymdeithasol neu Wasanaethau Gofal yw’r gwasanaethau rheng flaen. Mae gweithwyr y Gwasanaethau Gofal yn cynnwys gweithwyr yng nghartrefi gofal y Cyngor, cartrefi preifat yr awdurdod, a’r rheini sy’n darparu gofal cartref yng nghartrefi pobl o fewn yr awdurdod. Byddwn yn adolygu hyn yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru.

Mae pum lleoliad ar draws Ceredigion a fydd yn darparu gofal plant o ddydd Llun ymlaen, sef y canlynol:

  • Canolfan Integredig Plant (Canolfan Enfys Teifi)
  • Ysgol Gynradd Aberaeron
  • Ysgol Dyffryn Cledlyn, Drefach
  • Ysgol Y Dderi, Llangybi
  • Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Bydd y gwasanaeth ar gael saith diwrnod yr wythnos rhwng 8.00am a 6.00pm hyd nes y bydd yr ysgolion yn ail-agor. Bydd disgwyl i rieni ddarparu pecyn bwyd i’w plant oherwydd ni fydd y gwasanaeth yn darparu bwyd. Gall y lleoliadau newid yn amodol ar y galw.

Nid disodli’r gwasanaeth a ddarperir gan ddarparwyr gofal plant preifat yw bwriad y gwasanaeth, ond cynyddu’r capasiti pan fydd ysgolion yn cau ddydd Gwener.

Mae rhieni’n gallu cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn electronig ac archebu’r sesiynau sydd eu hangen arnynt ar sail wythnosol. Am ragor o wybodaeth ac er mwyn cofrestru, ewch i’r wefan: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/gofal-plant-i-weithwyr-allweddol/

11:32

Mewn cyfnod diflas lle mae pob gweithgaredd yn cael ei ohirio oherwydd y Coronafeirws, mae gan CFfI Ceredigion rywfaint o newyddion da!

Bydd enwau swyddogion newydd y mudiad am y flwyddyn nesaf, sef y Ffarmwr Ifanc, y Frenhines a’u Dirprwyon, yn cael eu cyhoeddi ar Facebook am 7yh heno.

?CYHOEDDI SWYDDOGION ?Gan na fydd Dawns Dewis Swyddogion heno, mi fyddwn yn cyhoeddi swyddogion newydd y Sir ar ein…

Posted by Cffi Ceredigion Ceredigion Yfc on Friday, 20 March 2020

19:02

Mae’n gyfnod anodd iawn ar hyn o bryd i bawb ond mae CFFI Llanllwni yma i helpu’r gymuned os oes angen.

Gwirfoddolwyr wedi eu lleoli yn ardaloedd Llanllwni, Maesycrugiau, Llanybydder, New Inn a Phencader.

Peidiwch ag oedi i gysylltu!

19:01

Dyddiad derbyn newyddion a lluniau ar gyfer rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc yw Dydd Llun 23ain Mawrth ac anogwn bawb i ddanfon eu newyddion yn gynnar yn yr un ffordd ag arfer.

Gwelwn fod cyhoeddi Papur Bro Clonc cyn bwysiced yn y cyfnod anodd hwn nag erioed. Teimlwn y gall Clonc leddfu ychydig ar y profiad o hunan ynysu rhag y Coronafeirws.

Ond oherwydd y perygl o ledu’r haint ni allwn ofyn i wirfoddolwyr gynorthwyo gyda’r plygu na’r dosbarthu yn ystod y misoedd nesaf. Felly bwriadwn gyhoeddi rhifyn digidol yn unig.

Gellir darllen y rhifyn nesaf ar eich ffôn / llechen / cyfrifiadur ar wefan www.clonc.co.uk

Bydd ar gael drwy’r byd i gyd.

Gallwch argraffu copïau eich hunain ar gyfer eraill sydd heb offer digidol.

Bydd y copi digidol am ddim ar y we a ni fydd rhaid mynd i’r siop i’w brynu.