Bwrw ‘hole-in-one’ ar gwrs Cilgwyn

Bradley Lewis o Langybi sy’n ateb cwestiynau “Cadwyn Cyfrinachau” Papur Bro Clonc y mis hwn.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Bradley Lewis o Langybi sy’n ateb cwestiynau “Cadwyn Cyfrinachau” Papur Bro Clonc y mis hwn a bwrw ‘hole-in-one’ ar gwrs golff Cilgwyn oedd ei eiliad balchaf yn bersonol.

Mae Bradley yn gynorthwyydd Y Ganolfan Gwasanaeth gyda Chyswllt Ffermio, a’r peth gorau am ei swydd yw ei gydweithwyr.

Yn y dafarn y mae e’n fwyaf hapus, a’i hoff adeilad yw’r Castle Llanbed!  Y celwydd diwethaf iddo ddweud oedd ei fod wedi mwynhau Chicken Chasseur ei fam.  Ar y llaw arall, y dylanwad mwyaf arno yw ei dad-cu Roy, sy’n 76 oed ac yn gweithio’n galed bob dydd.

Beth mae e’n ei wneud yn ei amser hamdden?  Sut fyddai e’n gwario £10,000 mewn awr?  Beth yw ei arbenigedd?   Beth sy’n codi ofn arno?  Pryd aeth e’n grac ddiwethaf?  Mynnwch gopi o rifyn Medi Papur Bro Clonc er mwyn darllen mwy o’i ymatebion.