Cadair a Choron Eisteddfod Ryng-gol o Lanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cadair a Choron Eisteddfod Ryng-gol gan Alec Page. Llun gan UMCA.

Cynhelir yr Eisteddfod Ryng-golegol ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw, a gwnaethpwyd y gadair a’r goron ar gyfer eisteddfod y myfyrwyr gan grefftwr dawnus o Lanbed.

Alec Page, y gof sydd â’i efail yn Barley Mow ers 25 o flynyddoedd a gynlluniodd ac a wnaeth y gwobrau cain eleni.

Mae Alec fel arfer yn cynhyrchu eitemau pwrpasol wedi’u creu â llaw ar gyfer y cartref a’r ardd ac mae wedi gwneud gwaith i gwsmeriaid o bob rhan o’r wlad.

Defnyddia ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, fel offer fferm a rheiliau Fictorianaidd.  Y cynnyrch mwyaf poblogaidd ganddo yw gatiau a dodrefn yr ardd, bwâu rhosod, canwyllbrennau, banisters a balconïau.

Cyflwynodd Alec gadair fechan unigryw o haearn o batrwm tonnau wedi ei haddurno â phres a hynny ar blinth pren.  Mae’r goron o’r un arddull haearn â phatrwm tonnau gyda defnydd melfed porffor.  Ar flaen y goron hardd ceir llinell driphlyg Gorsedd y Beirdd o bres a enwir “awen” ac sy’n cynrychioli’r haul.

Rhoddir y gadair eleni am gerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y thema ‘Agor’ ac enillir y goron am ysgrifennu darn neu ddarnau o ryddiaith heb fod dros 5,000 o eiriau ar y testun ‘Cau’.

Edrychwn ymlaen i glywed am ganlyniadau’r ddwy brif gystadleuaeth.  Tybed a ddaw’r gwobrau arbennig nôl i’r ardal?