#AtgofLlanbed Cael blas ar yr arian

Atgofion oes Dylan Lewis o gynorthwyo yn Eisteddfod Llanbed ac ennill arian da.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Côr Adran Yr Urdd Llanbed a enillodd gystadleuaeth Côr Plant. Llun: Papur Bro Clonc.

Y cof cyntaf sydd gen i o Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan yw cystadlu ar lwyfan mawr y babell pan oeddwn yn blentyn bach iawn. Wn i ddim ai canu neu adrodd oedd hynny. Ta beth, rwy’n cofio iddo fod yn brofiad nerfus iawn yn gorfod wynebu cymaint o bobl. Yr unig gysur oedd bod mam yn y gynulleidfa yn gwneud y moshwns wrth i fi berfformio a bod dad ond tu ôl cefnlen y llwyfan wrth i mi eistedd yno’n aros gyda gweddill y cystadleuwyr dibrofiad.

Doedd dim lot o lwc i mi yn y dyddiau hynny, ond chwarae teg i fy rhieni am fy ngwthio. Roedd y cystadlaethau i blant cynradd i gyd wastad yn boblogaidd bob blwyddyn a’r gwobrau o bryd i’w gilydd yn mynd i’r rhai anwylaf. Roedd cofio’r geiriau hefyd o gymorth mawr!

Llun: Papur Bro Clonc.

Mae gen i gof hefyd o weld y cymeriad Caleb o’r rhaglen Miri Mawr mewn un o gyngherddau’r eisteddfod ac roedd meddwl fy mod yn cystadlu ar yr un llwyfan â chymeriad mor chwedlonol yn anogaeth i blentyn bach yn ogystal â chodi ofn arno!

Roedd cynnal Eisteddfod o’r fath mewn pabell ar gae’r ysgol uwchradd yn golygu rhywbeth arall hefyd i’n teulu ni. Roedd tad-cu yn rhoi benthyg lorïau a gyrwyr i gludo’r cannoedd o gadeiriau o neuaddau lleol er mwyn eu defnyddio yno. Roedd yn gymwynas flynyddol lle’r oedd dad yn un o’r dynion cryf hynny a arferai wneud y cario, ac wrth gwrs roedd yn rhaid eu dychwelyd i’r mannau priodol bob blwyddyn.

Wrth dyfu’n arddegwr, datblygu a wnaeth fy niddordeb i yn Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan yn hytrach na phylu. Roeddwn yn un o ffrindiau mab ieuengaf ysgrifennydd cyffredinol yr eisteddfod a dechreuais gael blas ar y gwobrau ariannol!

Cofiaf gael y rôl o fod yn un o’r negesyddion â chyfrifoldeb o gludo’r amlen gyfrinachol o’r rhagbrofion a gynhelid ym Mrondeifi, Noddfa neu Festri Soar i Swyddfa’r Eisteddfod a leolwyd yn Swyddfa’r Pennaeth yn yr Ysgol Uwchradd. Roedd cynnwys yr amlen yn werthfawr, a wiw i unrhyw beth ddigwydd iddi! Ynddi roedd carden fechan ag enwau’r cystadleuwyr hynny a fyddai wedi llwyddo i gyrraedd y llwyfan. Doeddwn i ddim fod dangos honno i neb, dim ond mynd â hi ar fy meic yn syth i Swyddfa’r Eisteddfod oherwydd y byddai disgwyl mawr amdani ar yr hysbysfwrdd tu fas.

Cofiaf hefyd werthu beirniadaethau drwy ffenestr y swyddfa am 10c yr un, ond doedd dim hawl gennym eu gwerthu i’r cystadleuwyr aflwyddiannus tan ar ôl i’r un gystadleuaeth fod ar y llwyfan. Tasg arall a roddwyd i ni’r plant gan Goronwy Evans oedd gwerthu’r rhaglen (a oedd hefyd yn rhestr testunau). Tipyn o job oedd hyn gan fod pawb bron wedi ei phrynu o flaen llaw. Ond pan gyrhaeddai’r corau i gystadlu gyda’r hwyr, byddai ambell gantor hygoelus yn mynd i’w gês cerddoriaeth i hol y ceiniogau a phrynu un.

Un gorchwyl nad oeddwn yn rhy ffond ohono oedd bod yn glaf mewn cystadleuaeth cymorth cyntaf. Aneurin Jones, Hathren oedd prif stiward yr adran honno a gan fy mod yn mynychu ei ddosbarth cymorth cyntaf wythnosol fel sawl un arall, roedd gwneud hyn yn brofiad da i ni. Gorwedd ar lawr oer yr ystafell ddaearyddiaeth a sgrechain mewn poen. Tasg y cystadleuwyr a ddeuai o bell ac agos oedd rhoi’r driniaeth iawn i ni. Ond doeddwn i’n fawr o actor, a thestun difyrrwch i lawer ohonom oedd gweld ambell gystadleuydd yn rhoi sling ar fraich claf a oedd yn ceisio dynwared trawiad ar y galon!

Roedd Eisteddfod Llanbed yn gallu bod yn destun gwrthdaro blynyddol yn ein tŷ ni hefyd. Byddai mam bob blwyddyn yn gydwybodol yn gwneud ei rhan yn ysgrifennu tystysgrifau ac yn mynychu pob digwyddiad, ond roedd Gŵyl y Banc yn golygu rhywbeth arall i dad. Gyda’r Felin ar gau roedd e’n dymuno mynd am dro yn y car a manteisio ar y tywydd braf, ond gorfod ildio yr oedd e bob tro oherwydd Eisteddfod Llanbed.

Wrth i mi gyrraedd oedran cystadlu uwchradd, sylweddolais nad oedd cymaint yn cystadlu ar y cystadlaethau hŷn, yn enwedig ar y rhai cyfyngedig ar ddydd Sadwrn. Roedd prynu’r Rhestr Testunau yn Siop Lomax ar ddiwrnod cyntaf ei ymddangosiad tua mis Mehefin yn bwysig er mwyn cael digon o amser i fynd trwyddi ac uwcholeuo’r cystadlaethau y byddai’n bosib i fi roi cynnig arnynt. Roeddwn hefyd yn ceisio amcangyfrif faint o arian y gellid ennill!

Doeddwn i ddim yn ddigon o foi i lwyddo yn y cystadlaethau canu. Dafydd fy mrawd a gafodd y llais i ganu yn ôl mam, felly rhaid oedd panso ar y cystadlaethau adrodd. Dilwen Roderick, Awelon oedd yn gyfrifol am fy hyfforddi ac roedd hi’n byw drws nesaf ond un i ni yn Stryd y Bont gyda lwc. Arferai Dilwen bwysleisio naturioldeb wrth berfformio yn hytrach na goradrodd, ac roedd y cyfan yn dibynnu ar chwaeth y beirniaid wedyn.

Cofiaf i fi fod yn benderfynol o ennill Cwpan er cof am Anti Ray (Bayliau) un flwyddyn ond cael fy nhrechu gan Abigail Sara o Sgeti. A dyna beth arall, roeddwn yn cystadlu yn erbyn eisteddfodwyr profiadol. Llawer ohonyn nhw’n enwau mawr eu maes erbyn hyn, pobl fel Aled Hall a Fflur Wyn y cofiaf amdanynt yn gystadleuwyr blynyddol yn Llanbed.

Ches i ddim llawer o lwc ar yr unawd piano erioed er gwaethaf gwersi gan Miss Jones, Upper Bank, ond enillais y Canu Emyn dan 19 wrth forio “Daeth Iesu i’m calon i fyw” diolch i Rhiannon fy modryb am y tips. Des i i’r brig hefyd yn y gystadleuaeth siarad cyhoeddus. Cofiaf gael gwobr am ysgrifennu traethawd ar y Mewnlifiad a chael cyngor gan Eryl Jones, Gerlan i fynd i wrando ar y feirniadaeth yn y Babell Lên yn Festri Soar. Cael fy rhyfeddu yno wrth weld mawrion y genedl, pobl fel T Llew Jones, Dic Jones ac Idris Reynolds.

Parti Hefin o Adran yr Urdd Llanbed yn fuddugol am gydadrodd dan 12 ym 1983. Llun: Y Cymro.

Rwy’n cofio ennill cystadleuaeth i Gorau Plant gyda Chôr yr Urdd Llanbed gyda Twynog Davies yn arwain a Rhiannon Lewis yn cyfeilio, ac ennill ar y Cyd-adrodd hefyd.  Roedd Enid Griffiths, Heddle wedi dod â chriw ohonon ni fechgyn at ein gilydd a’n hyfforddi i adrodd “Y Band Undyn” gan I D Hooson.

Wrth gyfrif gwobrau’r cystadlaethau ffotograffiaeth, crochenwaith a fideo hefyd, cofiaf fynd â dros gan punt o sieciau Eisteddfod Llanbed i’r banc un flwyddyn ar ddiwedd yr wythdegau gyda boddhad mawr.

Ond mae Eisteddfod Llanbed yn fwy na hynny i mi nawr. Rwy’n cael y pleser o arwain sesiwn o’r llwyfan bob blwyddyn erbyn hyn ac yn gohebu i wefan Clonc360.  Rwy’n falch o gael rhoi rhywbeth nôl i ddigwyddiad a fu’n gymaint o ddylanwad arnaf. Edrychaf ar Dorian Jones gydag edmygedd, fel yr edrychais ar Goronwy Evans yn trefnu, llywio ac arwain digwyddiad diwylliannol mor safonol yn ein tref ni.

Mae Carys a finnau wedi rhoi’r cyfle i’r plant gystadlu pan oeddent yn fân, felly gwelaf yr eisteddfod yn feithrinfa a magwrfa bwysig i dalentau ac arweinwyr celfyddydol y dyfodol. Mae’r eisteddfod yn un o brif ddigwyddiadau’r dref, yn adnabyddus drwy Gymru gyfan ond hefyd yn parhau i fod yn gymuned gyfeillgar leol o Gymreictod.  Hir oes iddi.