Cael row yn Ffrangeg a ddim yn deall gair!

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Fyddai Aled Thomas o Rydcymerau ddim yn un da am gyfathrebu wrth fynd ar wyliau i Ffrainc.  Mae e hyd yn oed yn cofio cyflwyno ei waith cartref Ffrangeg yn hwyr pan oedd yn yr ysgol.

Ta beth, Cymro glân yw Aled sy’n ffermio ac yn weithiwr fferm, a bod yn ffermwr oedd ei uchelgais pan oedd yn blentyn hyd yn oed.

Yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc, mae Aled yn ateb cwestiynau ar gyfer colofn ‘Cadwyn Cyfrinachau’ a gallwch ddod i’w adnabod yn eitha da wrth ddarllen amdano.

“Fi’n eitha da am droi lan yn hwyr i rai pethe.” medde fe.  Y cyngor gorau a gafodd gan rywun oedd “Bydd yn gwrtais i bawb ond paid â gadael i neb gerdded dros dy ben.”

Gwêl ddiwrnod Mart yn gyfle i ymlacio “Heblaw bo ni’n gwerthu neu eisiau prynu, wedyn ma fe’n galler bod yn eitha stressful.”

‘Dyw e byth yn gorwario, “Fi’n eitha gofalus da’n arian.” medde Aled.  A ’dyw e ddim yn cofio pryd aeth e i’r sinema ddiwethaf, “Fi’n dueddol o gwmpo i gysgu hanner ffordd trwyddo ffilm.” ychwanegodd.

Ond mae e’n ffermwr o’i corun i’w sawdl.  Ei gyfrinach i gadw’n heini yw gweithio allan yn yr awyr agored.  Ei hoff adeilad yw’r sied ddefaid a’i ddeunydd darllen yw y Farmers Guardian.

Felly, cofiwch brynu Clonc sydd yn y siopau lleol nawr er mwyn darganfod rhagor amdano.  Tipyn o gymeriad!