Canolfan Dulais dros y blynyddoedd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

I’r rhai ohonoch chi sydd wedi bod yn teithio rhwng Llanbed a Ffordd Llanwnnen dros y pythefnos diwethaf, rydych wedi sylwi ar Ganolfan Dulais yn cael ei datgymalu a’i dymchwel darn wrth ddarn.

Ond beth oedd bwriad gwreiddiol yr adeilad hon? A beth oedd ei phwysigrwydd i ardal wledig wedi’r Ail Ryfel Byd?

Cafodd ei hadeiladu rhwng 1948 a 1949 gan gwmni G Walker & Slater sef yr un cwmni ag adeiladodd yr Ysgol Uwchradd yn y dref ar yr un adeg.  Adnabyddir yr adeilad gan lawer fel ‘Yr Agri’, ond yn swyddogol fel Adeilad y Llywodraeth.

Dyma oedd ymgyrch y llywodraeth i gefnogi amaethyddiaeth wedi caledi’r Ail Ryfel Byd.  Sefydlwyd Swyddfa Ranbarthol y Weinyddiaeth Amaeth dros Sir Aberteifi a Phenfro yma yn Llanbed.

Roedd yr adeilad yn ganolfan ddylanwadol a gyflogai nifer fawr o bobl yn yr ardal.  Dywed Danny Davies, Cwmann “Roedd llawer o bobl leol yn gweithio yno fel clercod ac oddi yno roedd y swyddogion tir yn gweithio gyda chyfrifoldeb dros gynghori ar wahanol agweddau o amaethyddiaeth.”

Roedd hyd at 70 i 80 o bobl yn gweithio yno pan oedd y lle yn ei anterth.  Ond ar yr 20fed o Fai 1963 sefydlwyd Swyddfa Ranbarthol i’r dair sir yng Nghaerfyrddin, a dyma ddechrau ar israddio pwysigrwydd y lle yn Llanbed. ”Dim ond rhyw 3 clerc oedd ar ôl wedyn” meddai Danny ”ond roedd y swyddogion tir dal yn gweithio oddi yno.”

Dywed Danny “Mae’n dor calon i mi i weld yr adeilad yn Hewl Pontfaen yn cael ei dymchwel.  Bues i’n mynd i’r gwaith bob bore o dan furiau’r adeilad, am gynfod o 39 o flynyddoedd.”

Bu Cyril Davies, Llanbed (gynt) yn gweithio yno am 4 blynedd o 1964 hyd 1968 “Ces i amser pleserus iawn.” meddai “Roedd pawb yn ffrindiau ac yn cydweithio’n fendigedig.”

Un arall a fu’n rhan o’r gweithlu oedd Twynog Davies, Pentre Bach. “Mi symudais o Aberteifi i Lambed gyda chyfrifoldeb am un adran o waith ADAS yng Ngheredigion yn 1976 a gweithio yno tan 1982”.

“Roedd yn gyfnod hapus tu hwnt.” ychwanega Twynog. “Rwy’n siwr bod dros 15 o bobl yn gweithio yn y gwahanol adrannau i’r Weinyddiaeth yn ystod y cyfnod yma. Yr unig dristwch yw fod nifer o’n ffrindiau yn yr Adran Amaeth wedi ein gadael erbyn hyn.”

“Roedd nifer o gwmniau a chymdeithasau eraill yn gweithio yn yr adeilad gan gynnwys Canolfan y Prawf Gyrru a Chanolfan Gwaith.  Mi wnes i symud ymlaen i Trawsgoed yn 1982 ond mae gen i lawer o atgofion melys am y gwmniaeth a’r cyfeillgarwch o weithio yn yr hen adeilad.”

Prynwyd yr adeilad gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi i Brifysgol y dref ymuno â Choleg y Drindod.  Gwelwyd nifer o gwmnioedd a sefydliadau eraill yn defnyddio ystafelloedd yn y lle fel Banc Bwyd Llanbed, Canolfan Deulu Llanbed, ciropractydd, gwasanaethau bridio ceffylau a chwmni cyfreithwyr.

Ond ym mis Mawrth 2018 prynwyd y safle gan Gymdeithas Tai Ceredigion gyda’r bwriad o’i hail ddatblygu ar gost o £3.2 miliwn.

Golygodd hyn fod angen i’r tenantiaid adleoli, a chlywyd am y bwriad o gau Canolfan y Prawf Gyrru.

Serch hynny bydd cynlluniau newydd Tai Ceredigion yn creu unedau busnes ecogyfeillgar modern ar y safle ar gyfer busnesau bach a chanolig, elusennau a sefydliadau sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.

Adeilad oedd unwaith yn gyfrifol am adfywio amaethyddiaeth dros ardal helaeth o Orllewin Cymru, ond a fydd eto ar ei newydd wedd dros 70 o flynyddoedd yn ddiweddarach yn arloesu mewn meysydd eraill.