Canolfannau cymunedol yn cael ailagor yng Nghymru, ond “dim gorfodaeth”

Ni fydd Neuadd Victoria yn ail agor yn llawn tan fis Medi.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Neuadd Victoria

Yn sgil y coronafeirws mae canolfannau cymunedol, sydd yn ganolbwynt i gymunedau yng Nghymru, wedi bod ynghau ers i’r cyfyngiadau ddod i rym fis Mawrth.

Heddiw cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bydd canolfannau cymunedol yn cael ailagor ddydd Llun (Gorffennaf 20).

Er bod disgwyl i rai digwyddiadau ail ddechrau yn fuan yn Neuadd Victoria yn Llanbed mae cadeirydd y neuadd wedi dweud wrth Golwg360 nad oes bwriad i ailagor yn llawn tan fis Medi.

Bydd campfeydd awyr agored, meysydd chwarae a ffeiriau hefyd yn cael ailddechrau ddydd Llun fel rhan o’r mesurau diweddaraf i godi cyfyngiadau’r coronafeirws yng Nghymru.

Roedd y Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi y byddai’r rhain yn ailagor cyhyd â bod lefelau’r coronafeirws yn parhau i gwympo yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd modd i’r cyfleusterau yma ailagor yn raddol dros yr wythnosau nesaf.

Pwysleisiodd y Prif Weinidog, er bod y cyhoeddiad yma yn “golygu bod y llefydd hyn yn cael ailagor, nid oes gorfodaeth arnyn nhw i wneud.”

Neuadd Victoria

Eglurodd Gary Thorogood, Cadeirydd Neuadd Victoria yn Llanbed, mai “gwyliau’r haf yw’r adeg tawelaf i’r neuadd fel arfer.”

“Bu rhaid i ni ganslo’r holl ddigwyddiadau oherwydd y coronafeirws, ond rydym ni yn gobeithio ail agor yn llawn ac ail lansio fis Medi.

“Os bydd grwpiau eisiau defnyddio’r neuadd cyn hynny bydd croeso iddyn nhw wneud – cyn belled â’u bod nhw’n gwneud asesiadau risg, glanhau a diheintio.

Ychwanegodd y cadeirydd fod y neuadd wedi manteisio ar yr amser yma i wneud rhywfaint o waith cynnal a chadw.

Er hyn bu rhaid i’r neuadd roi pedwar o weithwyr ar gynllun arbed swyddi’r llywodraeth, a diffodd y gwres yn llwyr er mwyn arbed arian.

“Rydym wedi gorfod cadw’r costau i lawr, ond yn ffodus iawn o gael grant busnesau bach gan y cyngor.

“Efallai bydd rhai pethau yn ail ddechrau yn raddol dros yr wythnosau nesaf – efallai bydd defnydd o’r swyddfeydd er enghraifft – ond ein bwriad yw ail agor yn llawn fis Medi.”

“Camau gofalus”

Yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bydd ailagor canolfannau cymunedol yn helpu awdurdodau lleol i ddarparu cynlluniau chwarae a gofal plant yn ystod gwyliau’r haf.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Bydd canolfannau cymunedol yn cael cynnal mwy o weithgareddau gan gynnwys helpu awdurdodau lleol i gynnal cynlluniau chwarae a gofal plant dros wyliau’r haf.”

“Er bod codi’r cyfyngiadau’n golygu bod y llefydd hyn yn cael ailagor, nid oes gorfodaeth arnyn nhw i wneud.  Gallai pryd yn union maen nhw’n ailagor amrywio wrth i berchenogion asesu’u sefyllfa a gwneud y newidiadau angenrheidiol.

“Wrth i ni gymryd y camau gofalus hyn, peidiwch da chi â meddwl bod y feirws wedi gadael y tir.

“Gallai’n holl waith caled fynd yn ofer yn rhwydd iawn os na wnawn ni ddal ati i wneud ein rhan ym mhob ffordd i gadw Cymru’n ddiogel.”