Cefnogaeth i unrhywyun sy’n cael trafferth i ddefnyddio dyfeisiau megis iPad, tabled, cyfrifiadur neu ffȏn symudol.

Cefnogaeth Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr dros y ffȏn, drwy e-bost, neu drwy alwadau fideo.

gan Meinir Davies

Mewn adeg fregus lle mae’r defnydd o ddyfeisiau digidol wedi dod yn rhan annatod o fywyd pob dydd nifer ohonom, mae Prosiect Digidol Sir Gâr a arweinir gan Fenter Gorllewin Sir Gâr wedi sefydlu gwasanaeth llinell gymorth i gynnig gwybodaeth a chefnogaeth i unrhywyun sy’n cael trafferth i ddefnyddio dyfeisiau megis iPad, tabled, cyfrifiadur neu ffȏn symudol.

Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys elfennau megis sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, cyngor ar sut i wneud galwadau fideo, arweiniad ar gael mynediad i wasanaethau amrywiol ar-lein, cyfarwyddiadau ar sut i siopa ar-lein, ynghyd ag arweiniad ar sut i ddarllen papurau newydd ac erthyglau ar-lein.

Darperir y gefnogaeth dros y ffȏn, drwy e-bost, neu drwy alwadau fideo. Beth bynnag yw’r broblem ddigidol, mae’r llinell gymorth yn barod i geisio rhoi help llaw.

Am fwy o wybodaeth neu am drafod unrhyw anghenion unigol, cysylltwch â Meinir Davies ar 07375 956 237, neu gellir danfon e-bost at meinirdavies@mgsg.cymru