Ceredigion: Y Sir gyntaf yng Nghymru i lansio Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi model cenedlaethol ar waith erbyn 2022

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ceredigion yw’r sir gyntaf yng Nghymru i lansio Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc.

Mae’r cardiau yn ffordd glir o adnabod pobl ifanc sy’n gofalu am eraill a sicrhau bod ganddynt fynediad at gymorth ychwanegol, fel slotiau siopa cyfleus a breichiau ffliw.

Y nod, yw sicrhau bod y cardiau ar gael ledled y wlad erbyn 2022.

Mae modd defnyddio Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc mewn:

  • archfarchnadoedd
  • cyfleusterau’r Cyngor e.e. canolfannau hamdden
  • meddygfeydd teulu
  • fferyllfeydd
  • ysgolion

Mae’r cerdyn wedi ei ddatblygu drwy gydweithrediad partneriaid o Lywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru â Gofalwyr Ifanc.

Daw yn dilyn lansiad llwyddiannus Cerdyn Gofalwyr Ceredigion ddechrau mis Hydref.

“Mae Covid-19 wedi gwneud bywyd yn anodd i bawb, gan gynnwys Gofalwyr Ifanc,” meddai Sara Humphreys, Swyddog Datblygu Gofalwyr Interim, Cyngor Sir Ceredigion.

“Mae Uned Gofalwyr Ceredigion wedi gweithio’n galed i ddatblygu’r cynllun hwn yn effeithlon, gan ein bod yn credu y gall gefnogi Gofalwyr Ifanc i oresgyn rhai o’r heriau a gyflwynwyd i’w rolau gofalu o ganlyniad i’r pandemig.”

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau lleol er mwyn ychwanegu tuag at fanteision y cardiau i ofalwyr ifanc ar gyfer y dyfodol.

Model cenedlaethol ar waith erbyn diwedd 2022

Mae’r Cerdyn Adnabod i Ofalwyr Ifanc yn rhan o fenter Cerdyn Adnabod Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn amcangyfrif bod tua 30,000 o ofalwyr o dan 25 oed yng Nghymru ac yn ôl y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Rydym am sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod, a’u bod yn cael help a chymorth i fanteisio ar wasanaethau pryd bynnag a lle bynnag y bydd arnynt eu hangen.

“Gyda chymorth gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a chyllid gwerth £200,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol i gynllunio a threialu syniadau newydd ar gyfer cardiau adnabod, rwy’n falch ein bod yn gallu ystyried rhoi model cenedlaethol ar waith ledled Cymru erbyn diwedd 2022, gan ddilyn arweiniad Cyngor Sir Ceredigion.”