Chwip o Farchnad Da Stôr yn Llanybydder

550 o dda ym Mart Llanybydder a thorri pob record o ran prisau.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Cofrestrwyd 550 o dda stôr o ffermydd lleol ar gyfer Mart Llanybydder ddoe.  Roedd ansawdd y gwartheg o’r safon uchaf a’r cyfan yn gwerthu am brisau eithriadol.

Gwerthwyd yr eidon gorau am £1,490 o eiddo Evans a Mills, Ffynnonfair, Pentrebach a’r anner ddrutaf am £1,520 o eiddo Mr Jenkins, Brohedydd, Pennant.  Gwerthwyd y fuwch hesb ddrutaf am £1,070 o eiddo Mr Walters, Garidfa, Cwmduad a’r tarw gorau am £1,450 o eiddo Mr Davies, Gwêl yr Haul, Blaen-cil-llech.  Y pris gorau wedyn am fuwch a llo oedd £1,800 o eiddo Mr Williams, Rhandir Uchaf, Llangwyrwfon.

Dywedodd Mark Evans yr arwerthwr “Roedd hi’n bleser ac yn rhwydd i werthu gyda’r masnachu’n dda, diolch i’r prynwyr i gyd sydd gyda ni’n gyson o un mis i’r llall.  Diolch hefyd i’r ffermwyr lleol sy’n cynhyrchu stoc arbennig sy’n werth eu gweld.”

“Sêl arbennig,” ychwanegodd “550 o dda ym mis Awst.  Pwy feddylie?”

Mae nifer wedi cofrestru’n barod ar gyfer y Mart ar y 12fed Medi, a gofynnir i bawb arall sydd â diddordeb i gofrestru’n gynnar.