Gallwch wibio gyda’r gwynt neu gael clonc hamddenol a chymdeithasol… Mae seiclo yn fwy na throi pedals!
Boed yn ddihangfa, dull i gadw’n heini neu gasglu neges o’r siop, mae teithio ar feic wedi cynyddu mewn poblogrwydd ers y Cyfnod Clo ac mae nifer wedi llwyddo i gael gafael ar feic, boed hwnnw’n un ail law neu’n newydd.
Mae gen i a fy ngŵr, Aled, ddiddordeb mawr mewn triathlons a seiclo. Dydyn ni ddim wedi ennill tlysau na safleoedd pwysig ar unrhyw bodiwm, ond mae’r ddau ohonom yn mwynhau’r profiad o gymryd rhan mewn chwaraeon lle gallwn gwrdd â phobol newydd tra‘n mwynhau cefn gwlad Cymru. Heb os, gallwch ddod o hyd i rai o’r teithiau beicio gorau yng Ngheredigion, gyda’r fantais o heolydd sydd heb ormod o draffig arnyn nhw. Rwy’ wedi darganfod llwybrau lleol am y tro cyntaf wrth feicio gyda ’nhad a bellach rydw i wrth fy modd gyda’r antur ac yn mwynhau dod o hyd i lwybrau troellog dros y mynyddoedd neu drwy ddyffrynnoedd gleision y sir.
Mae gan Glwb Sarn Helen enw da am redeg ledled y wlad, ac er bod yr adran seiclo wedi bodoli ers blynyddoedd, digon ansefydlog oedd y niferoedd. Nid oes rhyw lawer o weithgaredd wedi bod yn y clwb seiclo ers rhai blynyddoedd felly, yn hytrach na chwyno am y peth, es i ac Aled ati i geisio trefnu taith feicio bob nos Fercher. Fe wnes i fynychu cwrs Breeze llynedd, sy’n fenter i annog menywod yn benodol i ddechrau seiclo. Felly, ym mis Ionawr fe wnes i drefnu’r daith gyntaf i griw o ferched lleol. Roedd yn llwyddiant o’r cychwyn a buom yn mwynhau taith bob penwythnos nes i’r cyfnod clo ein rhwystro. Roedd yn siom fawr i fi ac Aled na chawsom gyfle i wireddu’n bwriad o gynnal reid fawr i bawb ym mis Ebrill, ond doedd dim i’w wneud – roedd rhaid cadw pawb yn saff.
Ond, heb unrhyw draffig a’r tywydd braf dros y cyfnod clo, mae wedi bod yn hyfryd i weld teuluoedd yn seiclo’r ardal – pobl yn mwynhau ac yn manteisio ar yr amser hamdden ychwanegol, ac eraill wedi gwneud y gorau o’r un cyfle i ymarfer bob dydd gan dynnu’r beic o gefn y garej, arllwys ychydig o olew ar yr hen tsaen rwdlyd, a chael blas ar yr awyr iach.
Nid yw pob cymdeithas wedi cael ail-gychwyn, ond gyda chymaint o bwyslais ar ofal iechyd corfforol a meddyliol, roeddwn yn falch iawn ein bod wedi gallu ail-gychwyn ar ein teithiau grŵp ar y beic ar ddechrau mis Awst. Mae amryw o bobol yn ymuno â ni ar nos Fercher, ac eto ar ddydd Sul.
Ein nod yw i roi cyfle i unigolion sydd eisiau rhoi tro ar seiclo i fedru gwneud hynny mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol er mwyn magu hyder, a chael ychydig o hwyl ar yr un pryd. Gall fod yn gyfle i wella ffitrwydd, colli pwysau, rhannu pryderon, clirio’r pen neu fwynhau cwmni pobol sy’n rhannu’r un diddordeb a’r pleser o seiclo. Rwy’n mwynhau seiclo, ond os rwy’n trefnu cwrdd â rhywun arall ar y beic, mae’n rhoi tipyn mwy o ysgogiad i fi, ac mae mwy o hwyl i’w gael mewn cwmni. Nid ras yw hi, ond yn hytrach cyfle i fwynhau taith o gwmpas yr ardal odidog hon.
Byddem wrth ein boddau i groesawu aelodau newydd ar nos Fercher neu ar y penwythnos. Mae gennym grŵp Facebook ac mae croeso i unrhyw un i ymuno a chysylltu os oes unrhyw gwestiynau.