Clybiau golff Ceredigion yn parhau ynghau

Clybiau golff yn siomedig ond yn diolch i Gyngor Ceredigion am eu gwaith yn amddiffyn pobol y sir.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Bydd pob un o’r chwe chwrs golff yng Ngheredigion yn parhau ar gau tan Fehefin 1.

Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i glybiau golff ailagor roedd clybiau golff yng Ngheredigion wedi bwriadu ail agor ddydd Llun (18 Mai).

Ond ar ôl rhannu negeseuon ar gyfrifon cymdeithasol yn croesawu aelodau yn ôl i’r clybiau bu rhaid i’r clybiau golff wneud tro pedol dros y penwythnos.

Mae’r clybiau golff hyn yn cynnwys Clwb Golff Aberystwyth, Clwb Golff Borth ac Ynyslas, Clwb Golff Cilgwyn, Clwb Golff Cwmrhydneuadd, Clwb Golff Penrhos, a Chlwb Golff Aberteifi.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi diolch i’r clybiau golff am eu cydweithrediad er mwyn lleihau unrhyw deithio diangen yn y sir dros y bythefnos nesaf.

Disgwyl mwy o draffig i’r ardal

Mae clybiau golff ar draws y sir wedi diolch i’r Cyngor Sir am eu gwaith yn amddiffyn pobol y sir rhag COVID-19.

Yn ôl y clybiau golff cafodd y dewis ei wneud gan fod disgwyl mwy o draffig i’r ardal dros y bythefnos nesaf. Yn ogystal â phenwythnos Gŵyl y Banc mae disgwyl i fyfyrwyr hefyd ddychwelyd i’r sir i nôl eu haeddo o neuaddau preswylio.

Ymwelwyr Gŵyl y Banc yn bryder i’r cyngor

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’n rhaid i ni ddal ati i wneud yr hyn rydym wedi’i wneud hyd yma, gan weithio gyda’n gilydd i aros adref ac achub bywydau.

“Mae gan Geredigion un o’r canrannau uchaf o boblogaeth hŷn, ac mae 2,500 o bobol yn y sir wedi’u hychwanegu i restr gwarchod y Llywodraeth. Felly, mae’r awydd i deithio yn ystod penwythnos gŵyl y banc ar ddiwedd y mis yn peri pryder arbennig i ni.”

“Mae’r cyfyngiadau yn parhau yng Nghymru, yn wahanol i Loegr lle mae’r cyfyngiadau teithio wedi cael eu llacio, ac mae Ceredigion eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sy’n mentro i’r sir i fwynhau ein cefn gwlad a’n traethau lleol.”

Adroddwyd gan y Cyngor Sir yn wreiddiol y dylai Ceredigion baratoi ar gyfer 60,000 o achosion a 600 o farwolaethau yn sgil y coronafeirws.

Hyd yma, Ceredigion yw’r ardal sydd wedi ei heffeithio lleiaf arni yng Nghymru gyda 39 o achosion o’r feirws.