Fyddai gan rywun ddiddordeb i redeg grŵp cymunedol er mwyn prydlesu coedlan leol?
Mae Coed Cadw sef y Woodland Trust yng Nghymru yn cynnig cyfle prin i’r gymuned i fabwysiadu coedlan ar gyrion Llanbed.
Coetir 15 erw yw Coed Blaenwern ar fryn Maestir sy’n edrych dros ymyl orllewinol Llanbed. Mae ochr dde-orllewinol y goedlan yn ffinio â Heol Maestir lle mae’r mynediad. Mae’n un o’r planhigfeydd bach ar hen ystâd Glynhebog ac mae wedi ei blannu gyda llarwydd, ffawydd a sbriws. Bellach mae’r goedlan wedi cael ei gadael yn garedig i Coed Cadw mewn ewyllys.
Mae Coed Cadw yn awyddus i gefnogi cymunedau i ymwneud â’u coedwigoedd lleol mewn sawl ffordd wahanol ac mae bellach yn chwilio am grŵp cymunedol a fyddai’n barod i gymryd y safle, ei brydlesu am gyfnod o flynyddoedd a’i redeg fel menter leol.
Mae’r coed a blannwyd o faint ac oedran addas i’w rheoli, gyda’r potensial i gynaeafu cynhyrchion pren a chynhyrchu incwm bach. Mae rhai o’r coed yn llarwydd ac wedi’u heintio â chlefyd Phytophtera ramorum. Fodd bynnag, yn ffodus, ni ddylai’r afiechyd hwn effeithio ar ansawdd na gwerthiant y pren llarwydd. Mae rhybudd cwympo coed statudol wedi’i gyflwyno sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r llarwydd gael ei gwympo o fewn tair blynedd.
Byddai Coed Cadw yn barod i ystyried amrywiaeth o opsiynau. Ar gyfer yr ymgeisydd cywir, byddem yn edrych i brydlesu’r coetir i’r grŵp am gyfnod o unrhyw beth rhwng 5 a 25 mlynedd. Byddai grŵp cymunedol sy’n ymgymryd â rheolaeth y coed felly yn gallu ‘cymryd perchnogaeth’. Byddai’r brydles hefyd yn caniatáu i’r prydlesai wneud cais am incwm grant i gefnogi ei weithgaredd.
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle ond nad ydych yn teimlo’n hollol barod, mae Llais y Goedwig, rhwydwaith coetiroedd cymunedol Cymru, gyda chefnogaeth Coed Cadw, yno i gefnogi grwpiau coetir cymunedol trwy gydol y broses. Mae swyddogion lleol wrth law i gefnogi, cynghori a hwyluso mynediad at rwydwaith coetir cymunedol bywiog! Edrychwch ar wefan Llais y Goedwig i ddarganfod mwy.
Os sefydlir grŵp coetir cymunedol llwyddiannus yng Nghoed Blaenwern, Llanbed, efallai y bydd cyfleoedd yn y dyfodol, yn amodol ar gytundeb, i ehangu ymglymiad i goedwigoedd eraill Coed Cadw yn yr ardal.