Cofio Diwrnod VJ ym Mhlwyf Pencarreg

Na aed byth yn angof gennym eu haberth a’u dewrder.

Eric ac Avril
gan Eric ac Avril

Llun gan Ronnie Roberts.

Ar 15 fed o Awst 1945, daeth yr Ail Ryfel Byd i ben, a hynny’n dilyn rhyfel erchyll yn y Dwyrain Pell a Siapan.

I gofio’r achlysur yma, cynhaliwyd gwasanaeth coffa ger Cofgolofn Rhyfel Plwyf Pencarreg ym mhentref Ram.  Daeth tyrfa luosog ynghyd, gan gadw’r pellter cymdeithasol gofynnol.

Cofiwyd yn arbennig am fachgen lleol a gollodd ei fywyd drwy law’r Japaneaid, sef David Daniel Evans, Y Glyn.

Cymerwyd ef yn garcharor yn China a bu farw ar yr 22ain o Fawrth 1944 yn Osaka Siapan.  Gwelir cofnod o’i enw ar y gofgolofn, hefyd ar dabled yng Nhapel Brondeifi ac erbyn hyn mewn gardd goffa yn Yokohama yn Siapan.

Roedd y gwasanaeth yn un teimladwy iawn yng nghofal Parch. Goronwy Evans, a gosododd Cadeirydd y Cyngor Bro, Y Bnr. Tony Lewis dorch o babi coch wrth draed y gofgolofn i gofio am David Daniel Evans, a cadwyd dwy funud o dawelwch am unarddeg o’r gloch.

Diolch i bawb am bresennoli eu hunain yn y gwasanaeth, ac i bawb a gymerodd ran.

Na aed byth yn angof gennym eu haberth a’u dewrder.