Dyma flas o’i gwaith…
Cymeriad direidus yr olwg oedd D.J. Gwisgai sbectol fawr, drwchus – eitha’ hen ffasiwn. Roedd yn anodd gwybod a oedd yn edrych arnoch neu beidio. Gellid dweud fod ei ymarweddiad yn unigryw. Pa dymor bynnag o’r flwyddyn ydoedd, roedd ei ruddiau gwritgoch yn amlwg o bell. Gellid credu bod magned yn y wên anghyffredin honno i ddenu pobl yn agos ato a’i barchu.
Ym 1949, bu’n darlithio yn Festri Capel Esgairdawe. Roedd yn barablwr anghyffredin. Ni ellir dweud ei fod yn siarad yn rhwydd, ond llwyddai i ddal sylw’r gynulleidfa. Cofiwn iddo fwriadu mynd i’r weinidogaeth, oni bai bod atal dweud yn ei boeni. O ganlyniad, penderfynodd fod yn athro ac fe goncrodd y nam hwn, i raddau helaeth wrth gymryd digon o amser a meithrin hunanhyder. Eto i gyd, er ei arafwch a’i ymgais i ‘banso’- chwedl un actor enwog, nid oedd yn feichus i wrando arno. Nid wyf yn meddwl i neb alaru ar ei glywed yn darlithio oherwydd roedd ei lais a’i osgo yn tynnu pobl i wrando. Roedd ei lygaid yn pefrio- yn llawn direidi, a deuai hiwmor iach allan drwy’r gwefusau crynedig.
Darllenwch y gweddill yn rhifyn Tachwedd Papur Bro Clonc!