Covid yn cau Ysgol Gynradd Dihewyd

Problemau staffio’n golygu bod rhaid cau’r ysgol am bythefnos

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Bydd Ysgol Gynradd Dihewyd ar gau am bythefnos oherwydd problemau diffyg staffio, yn dilyn achos o’r coronafeirws o fewn yr ysgol.

Daw hyn wedi i Gyngor Ceredigion gadarnhau ddoe (Rhagfyr 3) bod rhaid i un Grŵp Cyswllt hunanynysu.

Y bwriad gwreiddiol oedd cau’r ysgol am ddiwrnod i alluogi adnabod ac olrhain pob cyswllt, ac er mwyn glanhau’r safle’n drylwyr.

Er hynny, bydd yr ysgol gyfan ar gau tan ddydd Iau, Rhagfyr 17, oherwydd problemau staffio.

Mae’r ysgol wedi cysylltu â’r rhieni ac wedi eu hannog i fynd â’u plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw un o’r symptomau, sef:

  • tymheredd uchel
  • peswch parhaus newydd
  • colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.

Gallwch wneud cais am brawf fan hyn neu trwy ffonio 119.