Criw o ddisgyblion i hunanynysu yn dilyn achos o’r coronafeirws

Roedd rhaid cau Ysgol Gynradd Dihewyd heddiw, cyn ail-agor fory

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Ysgol Gynradd Dihewyd ar gau heddiw yn dilyn achos o’r coronafeirws o fewn yr ysgol.

Gwneir hynny, er mwyn galluogi i bob cyswllt gael eu hadnabod ac ar gyfer glanhau trylwyr.

Gofynnir i un Grŵp Cyswllt i hunanynysu am 14 diwrnod er mwyn leihau lledaeniad posibl y firws.

Bydd yr ysgol yn ail-agor yfory ar gyfer yr holl ddisgyblion a staff nad ydynt wedi’u hadnabod fel cysylltiadau.

Mae’r Ysgol wedi cysylltu â’r holl rieni.

Mae’r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw un o’r symptomau, sef:

  • tymheredd uchel
  • peswch parhaus newydd
  • colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.

Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r ffliw fel arfer.

Gallwch wneud cais am brawf fan hyn neu trwy ffonio 119.