Wrth dyfu yn Llambed yng nghanol cefn gwlad Cymru, roedd y byd eang yn lle dieithr. Fy myd cyfan am ddeunaw mlynedd o fewn milltir sgwar. Serch hynny, roedd antur yn ddigonol, atgofion melys o chwarae yn Siop Dad-cu, neidio ar y gweliau, cuddio yn y carped a chwarae efo’r dychymyg ymhlith y bocsys cardfwrdd. Doedd byth eiliad ddiflas yn Siop Dad-cu!
Fel unigolyn o gefn gwlad Cymru, roedd temtasiwn y brif ddinas yn ormod. Yng Nghaerdydd, treuliais y bedair mlynedd nesa fel myfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Daeth y cyfan i’w derfyn ym mis Hydref, gan raddio fel Meistr ym maes Dylunio. Dyma flynyddoedd yn llawn gwneud.
Ar ôl graddio, teimlais braidd ar goll, wrth chwilio am waith, felly penderfynais weithio mewn bwyty er mwyn cynilo arian. Tra’n gweithio’n y bwyty, daeth atgofion melys o deithio i Bwdapest a seiclo i Berlin yn 2016 a thaith o Bisa i arfordir yr Amalfi adeg Pasg 2019. Roeddwn i erbyn hyn, yn chwilio am sialens newydd, sialens fwy! Dyna pryd penderfynais i ymuno â Pedr (fy nghefnder) wrth deithio ar gefn beic ar draws y byd. Hedfan i Ecwador yn Ne America a seiclo adre.
Daeth y diwrnod yn gyflym a chyn bo hir, roeddwn yn Ecwador, chwe mil o filltiroedd o adre. Gwres De America ym mis Rhagfyr, tra bo pawb yng Nghymru bron â sythu. Yn ystod y diwrnodau dilynol, roedd yn rhaid adeiladu’r beic a’i atgyweirio oherwydd difrod yr holl drafaelu.
Yna, cymerais ddau fws a chyfanswm o bymtheng awr, er mwyn cyrraedd dechrau’r wir daith, o ffin Perw ac Ecwador i Efrog Newydd. Y sialens fwyaf erbyn hyn oedd ceisio anghofio’r heol i Quito, yr hyn a welais o gefn y bws. Heolydd serth drwy ehangder yr Andes.
Cwrddais â Pedr yng ngorsaf bws Loja. Gymaint oedd fy nghefnder wedi’i weld a’i wneud, wrth i ni weld ein gilydd, roedd y ddau ohonom nôl yn Llambed, yn chwarae yng nghanol y carped, fel plant. Y noswaith honno, roedd y cwrw’n llifo, wrth i’r ddau ohonom hel straeon am y ddwy flynedd ddiwethaf.
O fewn pedwardeg wyth awr, dechreuon ni fwrw am y gogledd. Roedd yr Andes yn heriol, wrth i ni ddringo ar gyfartaledd, mil a hanner o fetrau y dydd ar gefn y beic, gan wneud tua 50km. Amodau anodd a’r tywydd a’r tirwedd yn newid yn barhaus. Gallai fod yn oer, chwerw,
tra fu’r haul yn cuddio tu ôl i’r mynyddoedd a gwres chwyslyd wrth iddo ail ymddangos. Er hyn, wrth ddioddef, daw ymdeimlad o gyflawni a hunan gred. Roedd y breuddwydion gwallgo i gyd yn gyraeddadwy.
Wrth i’r milltiroedd gronni, tyfais i ymroi ym mynyddoedd Ecwador. Roedd y sialens a’i chyflawni yn chwerw-felys. Roedd y rhan gyntaf o Loja i Cuenca yn llawn profiadau newydd, dieithr. Partion ym mhentrefi bach yr Andes, pobl leol yn eu gwisgoedd yn dawnsio a gorymdeithiau crefyddol o fri.
Wrth seiclo drwy’r Andes, roedd caredigrwydd y bobl yn amlwg. Rhai yn cynnig bwyd, eraill yn cynnig llety dros nos a phawb yn chwilfrydig. Pam fo dau fachgen o Brydain yn seiclo drwy gefn gwlad Ecwador? Mae’n rhaid eu bod nhw’n ‘loco!’ Os oedd Ecwador yn ddieithr i ni, heb os, roedden ni’n ddieithr i’r bobl leol.
Roedd Cuenca yn awr mewn golwg. Ar ôl diwrnodau hir o ddringo, roedd anrheg yn aros amdanom. Disgyniad mil o fetrau i dref Cumbe. Dyma fyddai ein stop am y diwrnod. Wrth i ni ofyn i’r bobl leol am ardd i osod y pebyll, daeth cynnig gan ddyn lleol i osod gwersyll y noson, o fewn ty yr oedd yn ei adeiladu i’w deulu. Pedair wal a tho – perffaith! Roedd seiclo’r bore wedyn yn anhygoel, y ddau ohonom yn rasio ar yr heol wastad am Cuenca, 50km o fewn dwy awr. Rhifau anghredadwy o’u cymharu â’r diwrnodau cynt, yng nghanol y mynyddoedd.
Roedd y ddau ohonom wedi haeddu rhai diwrnodau o orffwys a’r dyddiau hynny yn llawn gofal. Gwneud yn siwr fod popeth yn barod i fynd eto.
Ar ôl sicrhau bod pob dim yn berffaith, roedd y ddinas i’w harchwilio. Hanes anhygoel, pensaerniaeth syfrdanol a bwyd bendigedig! Yn bendant, roedd cyfoeth De Ecwador i’w weld yn y ddinas hon. Ond, gyda’r Nadolig yn nesau, roedd y ddau ohonom yn casau’r syniad o sythu yn y pebyll, felly yn gyflym, cynlluniwyd y llwybr oedd i ddod.
Diwrnodau hir, er mwyn cyrraedd Riobamba, lle byddai ffrind yn edrych ar ôl ein beics, wrth i ni fynd i galon yr Amazon, er mwyn mwynhau gyda theithwyr eraill.
Daeth y bore’n gyflymach na’r arfer, ar ôl brecwast, roedd yr heol yn gyfarwydd. Fel arfer, roedd y cilometrau’n anodd, ond gyda cymhelliant ffres a cherddoriaeth newydd a phodlediadau gwahanol, roedd y ddau ohonom ar wib. Y golygfeydd epig rownd bob tro, wrth fynd o un cwm i’r llall. Doedd dim temtasiwn i stopio na siarad, canolbwyntio oedd y brif nod. Yr unig beth fyddai’n rhwystredig fyddai’r beic, ar ôl i’r caset ôl blygu, treuliwyd y munudau nesa gyda pleiars ar ochr yr heol, er mwyn sicrhau ein bod yn medru parhau.
Y noswaith honno, roedden ni’n ffodus i ddod o hyd i gwt bugeiliaid ar ben y mynydd, hwn fyddai ein cysgod, er yn llawn tyllau, doedden ni ddim yn poeni llawer. Mae’n rhyfedd faint yr ydym yn dibynnu ar bethau moethus yn ein bywydau bob dydd, ond yn medru ffeindio’r un hapusrwydd gyda chysgod syml.
Roedd y diwrnodau dilynol yn destament o gydsyniad, un nod, roedd rhai adegau ble roedd yn rhaid stopio er mwyn syllu ar y golygfeydd, neu weithiau, dyma’r esgus er mwyn cael munud o orffwys i’r coesau! Ar y cyfan, roedd yr adegau hyn yn brin, seiclo am bron wyth awr y dydd oedd hi.
Y diwrnod wedyn, cyrhaeddon ni dref Chinchi, ar ôl oriau ar y ‘cobbles’, wrth i ni geisio ffeindio lle i wersylla am y noswaith, lawr heol serth i stad o dai tawel. Yno, roedd man enfawr, gwastad – lle perffaith am y noswaith, gyda golygfeydd oedd yn ymestyn trwy’r cymoedd y mentron ni i fyny. Syllon mewn syndod ar yr hyn roedd y ddau ohonom wedi’i gyflawni’n barod. Dyma amser gwych I fwynhau siocled poeth o flaen y pebyll, gan ddwyn i gof y daith mor belled, chwerthin am yr atgofion a’r damweiniau agos y llwyddon i’w hosgoi.
Wrth i ni fynd i’r gwely, roedd sŵn byddarol yn dod o’r tŷ gyferbyn, parti priodas, dim sôn am heddwch tan oriau mân y bore, nid yr hyn y dymunem ar ôl diwrnod called o feicio.
Erbyn y bore, roedd distawrwydd perffaith. Yn sicr, dyma’r olygfa berffaith I feithrin rywfaint o gymhelliant. Roedd diwrnod hir o’n blaenau ac roedd y mynydd o uwd adeg brecwast yn sicr yn help. Heddiw fyddai’r diwrnod hiraf a mwyaf serth ar y beic, cyn belled.
Wrth ddringo i fyny’r Andes, drwy’r gymuned gynhenid, roedd y plant yn chwerthin gan weiddi ‘Carapaz’, sef seiclwr proffesiynol, yn wreiddiol o Ecwador. Am ddiwrnodau, cawsom ein bwydo gan yr henoed, gyda reis, cyw iar a chorbys yn yr ardaloedd gwledig hyn.
Yn hwyr yn y prynhawn, roeddem ar ben y bryn, gyda 30km i fynd nes y dref agosaf, ‘Guamote’. Roedd hi mor oer ar ben y bryn hwnnw, ond gyda’r posiblrwydd o wely a chawod gynnes, llwyddon i ddal ati, gan rasio gan wneud 30km yr awr am yr awr nesaf, – roedd yn anhygoel. Buom yn ddigon ffodus i ddod o hyd i le, fel breuddwyd, yn cynnig pryd tri chwrs am bris rhad.
Ar ôl y pryd hwnnw roeddem mewn trwmgwsg. Byddai yfory yn ddiwrnod mawr arall, byddem yn cyrraedd Riobamba, lle byddai ein ffrind Edison, yn gofalu am ein beiciau wrth i ni fynd i fwynhau dathliadau’r Nadolig yn Banos, lle gallem fod gyda phobl, a byddai’r siopau ar agor.
Bore cynnar a milltiroedd hir oedd i ddod y diwrnod hwnnw, yr heol o’n blaen, osgoi tyllau dwfn a thirlithriadau o’r mynyddoedd uwchben, ond er hyn, roedd yn ddiwrnod syml, gydag un brif nod, wrth gyrraedd Riobamba.
Ceision ni ddod o hyd i Edison yng nghanol y dref enfawr, gan osgoi’r traffig a dathliadau’r Nadolig. Cwpwl o funudau wedyn, roedd y ddau ohonom yng nghwmni Edison, dyn lleol oedd yn gweithio yn y diwydiant twristiaeth, ei brif swydd oedd mynd â thwristiaid i fyny i losgfynydd ‘Chimborazo’ yng nghefn lori, er mwyn iddyn nhw ddisgyn lawr a mwynhau’r wefr ar gefn beic mynydd. Yno roedd y beics yn aros dros y Nadolig, wrth i fi a Pedr drafaelu i Banos ar y bws, a oedd ychydig yn boenus.
Dros y dyddiau nesaf, roedd y ddau ohonom yn mwynhau’r gorffwys a dathliadau’r Nadolig. Yn Ne America, roedd pobl yn dathlu’r Nadolig ar drothwy’r Nadolig, â phawb yn agor eu anrhegion a chael cinio enfawr yn hwyr y noson honno, roedd pawb felly yn medru ymlacio a mwynhau ar y diwrnod, heb unrhyw densiwn! I Pedr a minnau, roedd y Nadolig yn wahanol iawn i’r arfer, y ddau ohonom yn codi i wres De America yng nghanol fforest law yr Amazon.
Y bore hwnnw, rhoddon ni alwad adre er mwyn dymuno Nadolig Llawen i bawb, cyn llogi dau feic mynydd, er mwyn archwilio’r ardal. Rhaeadrau enfawr wrth i ni fynd o un i’r llall, pawb yn chwarae yn y dŵr a mwynhau, golygfa ddieithr iawn ar ddydd Nadolig!
Erbyn canol dydd, roedd hi’n amser i gael cinio Nadolig, wrth I ni ddewis mynd i fwyty moethus, er mwyn osgoi’r pryd arferol o gyw iar, reis a chorbys! Cyw iar mewn saws madarch a gawsom, a llu o lysiau, yn wir, dyma’r pryd gorau o fwyd ers i ni gyrraedd yr America. Yn draddodiadol, byddai’r prynhawn yn cael ei dreulio yn chwarae gemau bwrdd yn yr ystafell fyw, gartref.
Y Nadolig hwn, gwnaeth y ddau ohonom hynny gyda llu o ffrindiau newydd a digonedd o gwrw! Yn sicr, roedd yn ddiwrnod i’w drysori, diwrnod Nadolig hynod o wahanol a bythgofiadwy.