Cyfarchion ar ben-blwydd arbennig iawn

Rose Florence, un o breswylwyr Maesyfelin, Drefach, wedi cyrraedd carreg filltir nodedig.

gan Siwan Richards

Estynwn gyfarchion arbennig i un o drigolion yr ardal ar ddathlu pen-blwydd arbennig yn 102 oed.

Mae Rose Florence yn un o breswylwyr Cartref Gofal Maesyfelin, Drefach, Llanybydder, ac wedi cyrraedd carreg filltir nodedig yn ddiweddar.

Yn anffodus, ni fu modd iddi ddathlu gyda’i theulu eleni oherwydd cyfyngiadau y coronafeirws.

Roedd pen-blwydd Rose Florence yn achlysur pwysig i’r cartref gofal yn Nrefach, gan mai Rose yw ail breswylydd y cartref i ddathlu pen-blwydd o 100 oed neu’n hŷn eleni.

Derbyniodd lawer o gyfarchion a sawl tusw o flodau. Er nad oedd modd trefnu ymweliad ar ran y Cyngor Sir Ceredigion, anfonwyd blodau ati gan yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Euros Davies a dymunwyd ben-blwydd hapus iawn gan Gadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Gareth Davies.

Pob dymuniad da, a phen-blwydd hapus arbennig iawn, Rose.