Cyfarfod Mis Awst Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan

Adroddiad o drafodaethau a phenderfyniadau’r cyngor

gan Rob Phillips

Cynhaliwyd cyfarfod rhithiol o Gyngor y Dref ar nos Iau 27 Awst, gan ddefnyddio sustem Zoom. Dyma’r pedwaredd tro mae’r cyngor wedi cwrdd yn rhithiol

Dyma grynodeb o’r prif bethau a drafodwyd:

• Cafwyd cyflwyniad gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chwmni Aldi ar ddatblygiad arfaethedig ar gaeau chwarae’r brifysgol. Mae’r cynllun yn cynnwys datblygu archfarchnad Aldi ar ran o gaeau Pontfaen gyda’r Brifysgol yn adnewyddu’r pafiliwn ac un cau chwarae ar y safle a sefydlu ‘Canolfan Tir Glas’ ar gampws y Brifysgol i arbenigo mewn bwyd. Nid oedd y cyflwyniad yn rhan o’r broses gynllunio a dywedd y brifysgol eu bod nhw’n awyddus I’r gymuned fwydo syniadau i’r cynllun. Gofynnwyd I’r brifysgol drefnu gweithgareddau i gasglu barn a syniadau’r gymuned a nodwyd byddai’r cyngor yn trefnu cyfarfod cyhoeddus fel rhan o’r broses gynllunio unwaith bod cais cynllunio wedi’i gyflwyno.

• Penderfynwyd i barhau gyda thrafodaethau i osod ciciwr calon arall ar Neuadd Buddug.

• Cafwyd adroddiad bod Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu gosod golau ar Teifi Lane felly penderfynwyd i beidio mynd ymlaen gydag unrhyw waith ar y cynllun hwn am y tro.

• Cafwyd trafodaeth ar y llifogydd yn y dref yn ddiweddar. Roedd rhai o’r cynghorwyr wedi bod allan a gweld y difrod eu hunain. Penderfynwyd ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion i ofyn iddynt glirio’r draenau a gwneud gwaith trwsio lle bod angen fel mater o frys ac i ofyn i’r swyddog cyfrifol ddod i gyfarfod y cyngor i drafod y problemau diweddar.

• Cytunwyd i arwyddo’r dogfennaeth partneriaeth gyda’r Grŵp Lon Las i wella llwybrau cerdded/seiclo yn ardal y dref.

• Penderfynwyd bod y Dirprwy Faer Selwyn Walters a’r y Cyng Dave Smith yn cwrdd gyda John Davies o’r Lleng Brydeinig i edrych ar drefniadau Sul y Cofio a llunio cynllun i gynnal y gwasanaeth o fewn y cyfyngiadau presennol.

Cynhelir cyfarfod nesaf a Chyfarfod Blynyddol y Cyngor ar ddydd Iau 24 Medi am 7.30yh. Mae hawl gan aelodau’r cyhoedd arsylwi ar gyfarfodydd y cyngor gan ddefnyddio Zoom trwy drefniant gyda’r Clerc: clerc@lampeter-tc.gov.uk.