Cyfarfod Cyngor y Dref

Cyhaliwyd cyfarfod rhithiol o Gyngor Tref Llanbed ar nos Iau 28 Mai; dyma grynodeb o’r trafodaethau 

gan Rob Phillips

Cyhaliwyd cyfarfod rhithiol o Gyngor y Dref ar nos Iau 28 Mai, gan ddefnyddio meddalwedd Micorsoft Teams. Dyma’r ail dro mae’r cyngor wedi cwrdd fel hwn yn ystod yr argyfwng er mwyn delio â busnes brys.

Cytunwyd i ohirio Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor tan Mis Medi gyda’r Maer Rob Phillips a’r Dirprwy Faer Selwyn Walters yn aros yn eu swyddi tan hynny.  

Cafwyd trafodaeth am arddagosfeydd blodau yn y dref dros yr haf. Roedd Cyngor y Dref wedi gosod cytundebau ar gyfer y blodau ond oherwydd penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i beidio caniatai unrhyw arddangosfeydd blodau ar strydoedd y sir am y tro nid oes modd mynd ymlaen gyda’r cynllun ar hyn o bryd. Mae’r cyngor yn rhwystredig iawn am hyn. Cafwyd esboniad gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion bod y penderfyniad i beidio caniatau arddangosfeydd blodau yn rhan o becyn o gyfyngiadau i leihau effaith Covid-19 yn y sir. Mae’r cyngor wedi dirprwyo awdurdod i Bwyllgor Parciau a blodau i weihredu ar frys os bydd y polisi hyn yn newid.

Nodwyd ymddiswyddiad y Cynghorydd Dinah Mullholland a diolchwyd iddi am ei chyfraniad. Penodwyd y Cyng Rhys Bebb Jones i’r Pwyllgor Gweinyddiaeth a’r Cyng Chris Thomas i gynrychioli’r Cyngor yn cyfarfodydd Un Llais Cymru. Cytunwyd i adael penodiadau i Gorff Ymgynghorol Tai Cymru a’r Gorllewin a Phwyllgor yr Amgylchedd i’r cyfarfod nesaf.

Trafodwyd yr arwyddion a’r baneri ar Sgwâr Harford yn dilyn gohebiaeth a sylwadau gan y cyhoedd a phenderfynwyd i’w gadael am y tro.

Roedd un cais cynllunio, sef datblygiad Cwrt Dulas; doedd dim gwrthwynebiad cyhyd a bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon ynglyn ag unrhyw risg llifogydd.

Cafwyd adroddiad ar weithgaredd o ganlyniad ir Argyfwng Coronafeirws; cynhyrchwyd taflen ar gyfer pob tŷ yn y dref yn nodi’r cymorth sydd ar gael, rhoddwyd grantiau i Camfan, Home Start, Canolfan Deuluol Llambed a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Bro Dderi a Chwmann. Derbyniwyd grant gan Western Power tuag at y costau hyn. Yn unol a chais Cyngor Sir Ceredigion roeddwn wedi cau ein parciau.

Nodwyd bod ffilmio y clapio ar gyfer gweithwyr allweddol ar Ffordd y Bryn wedi bod yn lwyddiant, a diolchwyd i’r rhai a gymerodd rhan yn y dathliadau diwrnod VE rhithiol.

Cytunodd i roi tarian y dref i Alan Barbwr (Sryd y Bont) i nodi 50 mlynedd o fasnachu yn y dref.

Mae hawl gan aelodau’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd y cyngor gan ddefnyddio Microsoft Teams trwy drefniant gyda’r Clerc. Bydd y cyfarfod nesaf ar Nos Iau 25 Mehefin.