Cyfarfod Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan – Gorffennaf

Diweddariad o’r cyngor

gan Rob Phillips

Cynhaliwyd cyfarfod rhithiol o Gyngor y Dref ar nos Iau 30 Gorffennaf, gan ddefnyddio sustem Zoom. Dyma’r trydydd tro mae’r cyngor wedi cwrdd yn rhithiol a’r tro cyntaf i ni symud i Zoom er mwyn galluogi cyfieithu ar y pryd fel bod y cynghorwyr yn medru cyfrannu yn y Gymraeg a’r Saesneg fel arfer.

Cynhaliwyd munud o dawelwch i gofio Noel Davies, cyn Faer y dref, yn dilyn ei farwolaeth yn ddiweddar. Nodwyd gwerthfawrogiad o’i gyfraniad i’r dref dros nifer o flynyddoedd. Llongyfarchwyd Kistiah Ramaya ar enedigaeth ei wyres, ac Ann Bowen Morgan am gael ei hurddo i’r Orsedd.

Cafwyd trafodaeth gyda’r heddlu am rai materion gan gynnwys plismona’r parth diwlychol, materion ynglŷn â Sgwâr Harford ac ail agor yr economi lleol.

Penderfynodd y cyngor i beidio llenwi’r sedd wag, a dyma grynodeb o’r prif bethau a drafodwyd:

  • Yn ymateb i ymgynghoriad gan Gyngor Sir Ceredigion ar osod ‘parth diogel’ yn y dref, barn y cynghorwyr oedd gofyn i’r Cyngor Sir beidio â chau unrhyw ffordd yn y dref, fel sydd wedi digwydd mewn rhai o drefi eraill y sir.
  • Cytunodd y Cyngor i dalu £1,500 ar gyfer arddangosfa tân gwyllt yn y dref, gan na fyddai modd i’r Ford Gron godi arian ar ei gyfer eleni.
  • Cytunwyd i ddechrau trafodaethau gyda Neuadd Buddug am osod ciciwr calon yno.
  • Bydd y cyngor yn cysylltu gyda Chyfoeth Naturiol Cymru am ddarpariaeth beicio yn yr ardal a chreu trac safonol yn lleol.
  • Bydd Tai Ceredigion am gynnal ymgynghoriad ar enw yr adeilad newydd ar safle Canolfan Dulais.
  • Adroddwyd bod y parciau yn dal ar gau oherwydd bod yr arwyddion newydd heb gyrraedd ond bod gobaith i’w hagor yn y dyddiau nesaf.
  • Nodwyd bod preswylwyr Bryn Steffan yn pryderu am ddiogelwch rhai ardaloedd ar y safle er bod y ffens oedd wedi torri wedi cael ei symud.

Bydd y cyfarfod nesaf ar 28 Awst. Mae hawl gan aelodau’r cyhoedd arsylwi ar gyfarfodydd y cyngor gan ddefnyddio Zoom trwy drefniant gyda’r Clerc: clerc@lampeter-tc.gov.uk.