Cyfarfod Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan – Mis Hydref 2020

Crynodeb o’r brif pwyntiau gafodd eu trafod yn y cyfarfod

gan Rob Phillips
Lampeter-Crest-Coloursq

Arbais Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan

Cynhaliwyd cyfarfod rhithiol o Gyngor y Dref ar nos Iau 29 Hydref, gan ddefnyddio sustem Zoom. Dyma’r chweched tro mae’r cyngor wedi cwrdd yn rhithiol oherwydd cyfyngiadau Covid-19, a dyma oedd cyfarfod olaf y Cyng. Rob Phillips fel Maer. Cymerodd y Cynghorydd Selwyn Walters ddyletswyddau’r Maer, a’r Cyng. Helen Thomas yn Ddirprwy Faer ar 1 Tachwedd.

Dyma grynodeb o’r prif bethau a drafodwyd:

• Adroddwyd nad oes grantiau ar gyfer peiriannau cicio calon ar gael ar hyn o bryd felly penderfynwyd i aros nes bod cyfleodd newydd am gyllid cyn parhau gyda’r bwriad i osod ciciwr calon wrth Neuadd Buddug.

• Adroddwyd nad oes llifogydd pellach wed bod yn ardal Stryd y Farchnad ers i Gyngor Sir Ceredigion wneud gwaith yno, ond nid ydym wedi cael glaw trwm iawn ers hynny felly rydym yn monitro’r sefyllfa o hyd. Adroddwyd problemau yn ardal Heol Llanfair/Brongest i’r Cyngor Sir.

• Adroddwyd bod yn rhaid canslo gwasanaeth Sul y Cofio wrth y gofeb a bydd Eglwys Sant Pedr yn cynnal oedfa ar-lein yn lle. Mae Aberystwyth a Machynlleth hefyd wedi canslo eu gwasanaethau.

• Cytunwyd i gyfrannu hyd at £500 y flwyddyn tuag at gynnal a chadw cloc y dref dros y 5 mlynedd nesaf ar yr amod bod perchennog yr adeilad yn parhau gyda’r gwaith cynnal a chadw ar strwythur y tŵr.

• Er nad yw’r siambr fasnach yn medru gosod y goleuadau Nadolig a’r Ford Gron yn methu gosod y coed Nadolig fel arfer, cytunodd y cyngor i dalu am gontractwr i osod coed Nadolig ar y siopau lle mae’r siopau yn prynu coed eu hunain.  Mae’r cyngor a’r siamber yn edrych ar opsiynau ar gyfer addurno’r dref.

• Roedd y cyngor wedi paratoi taflen wybodaeth yn nodi pa fusnesau/siopau/ gwasanaethau sydd yn parhau ar agor yn ystod y cyfnod clo byr a’i rhannu ar y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae gwybodaeth Covid-19 ar wefan y cyngor wedi cael ei ddiweddaru.

• Cytunwyd i gyfrannu £500 tuag at gostau prosiect Home Start i baratoi fideos i helpu plant gyda sgiliau sylfaenol cyn dechrau ysgol.

• Diolchodd y Cyng. Rob Phillips am y gefnogaeth roedd e wedi cael yn ystod ei dymor fel Maer dros y 18 mis diwethaf a dymunodd bob llwyddiant i’r Cyng. Selwyn Walters ar ei dymor. Diolchodd yntau i Rob am ei waith ar ran y cyngor.

• Cynhelir y cyfarfod nesaf ar Zoom ar 26 Tachwedd am 7.30yh. Mae hawl gan aelodau’r cyhoedd arsylwi ar gyfarfodydd y cyngor gan ddefnyddio Zoom trwy drefniant gyda’r Clerc: clerc@lampeter-tc.gov.uk.