Cyfarfod Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan – Medi 2020

Y diweddaraf o Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, sy’n parhau i gyfarfod arlein.

gan Rob Phillips

Cynhaliwyd cyfarfod rhithiol o Gyngor y Dref ar nos Iau 24 Medi, gan ddefnyddio sustem Zoom. Dyma’r pumed tro mae’r cyngor wedi cwrdd yn rhithiol, ac roedd y cyfarfod hwn yn cynnwys Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y cyngor a gafodd ei ohirio ohiriwyd ym Mis Mai.

Dyma grynodeb o’r prif bethau a drafodwyd:

  • Etholwyd y Cyng. Selwyn Walters yn Faer am y cyfnod Mis Tachwedd 2020 i Fis Mai 2021, a’r Cyng Helen Thomas yn Ddirprwy Faer. Bydd y Maer presennol, y Cyng Rob Phillips yn aros yn ei swydd tan 31 Hydref.
  • Cyunwyd bydd y Cyng. Ann Morgan yn cynrychioli’r cyngor ar Grwp Adleoli Ffoaduriaid Ceredigion, bydd y Cyng. Rob Phillips yn cynrychioli’r Cyngor ar fwrdd prosiect Lon Las Ceredigion.
  • Adroddwyd bod trafodaethau am gael cicio calon newydd yn parhau.
  • Adroddwyd bod Cyngor Sir Ceredigion wedi gwneud gwaith yn ardal Stryd y Farchnad i wella draeniad yn yr ardal.
  • Cytunwyd i ganslo’r arddangofa tan gwyllt o ganlyniad i ddirywiad y sefyllfa Covid-19 ar draws Cymru, a diolchwyd i’r Ford Gron am ei barodrwydd i’w cynnal.
  • Cytunwyd i drefnu seremoni Sul y Cofio bach, gyda chynrychiolwyr y Cyngor a’r Lleng Brydeing yn unig. Ni fydd modd i elodau mundidau eraill neu’r cynhoedd fod yn bresennol ond byddwn yn edrych mewn i ddarlledu’r seremoni ar dudalen Facebook y Cyngor.
  • Adroddwyd bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gosod llochesi bysys newydd ar Stryd Fawr.
  • Cytunwyd i ymgymryd a gwaith angenrheidiol ym Mharc yr Orsedd ond i ofyn am amcanbris amgen ar gyfer rhai eitemau costus.
  • Cynhelir y cyfarfod nesaf ar Zoom ar 29 Hydref am 7.30yh. Mae hawl gan aelodau’r cyhoedd arsylwi ar gyfarfodydd y cyngor gan ddefnyddio Zoom trwy drefniant gyda’r Clerc: clerc@lampeter-tc.gov.uk