Cyfrol Fach Hwylus Anne Gwynne ar deithiau cerdded Cymdeithas Edward Llwyd

Mae “Fan Hyn a Fan ‘Co” yn cynnwys nifer o deithiau cerdded lleol.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Un anrheg Nadolig cynnar a gefais ar ddiwedd wythnos ddiwethaf oedd llyfr “Fan Hyn a Fan ‘Co” gan Anne Gwynne, lle mae’n ail-fyw rhai o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd rhwng 2004 a 2017.

Roedd Anne Gwynne yn ysgrifennu colofn am deithiau maes Cymdeithas Edward Llwyd ym mhapurau bro Y Ddolen a’r Barcud, yn ardal Tregaron – nid dim ond pob hyn a hyn ond bron yn ddi-dor rhwng 2004 a 2018.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae hi wedi bod yn brysur yn taflu ei llygaid drostyn nhw unwaith eto. Mae detholiad o 38 wedi dod at ei gilydd i greu cyfrol fach hwylus gyda lluniau braf a hanesion am rai o lecynnau braf sir Ceredigion a thu hwnt. 

Ymhlith y teithiau a geir yn ei llyfr newydd mae teithiau lleol a drefnwyd gan y diweddar Ieuan Roberts.

Mynydd Llanllwni a Mynydd Llanybydder

Wrth fynd ymlaen dros Fynydd Llanllwni, heibio Crugiau Giar, hen fannau claddu, roedd y gwynt bellach yn hyrddio’r glaw atom.  Wrth gyrraedd Ffynnon Nant-co, dyffryn bach gyda nifer o nentydd yn cwrdd, bu’r plant yn chwilota a dod o hyd i gen pen-matsien, a mawr bu eu diddordeb.

Llambed

Ychydig o ffordd o’r maes parcio, ar y llain fach o dir gwyrdd sydd bron gyferbyn â Swyddfa’r Heddlu, gwelsom y goeden anarferol gyntaf i gael ein sylw, sef y ddraenen wen llydanddail.  Nid oes llawer o enghreifftiau ohoni yng Nghymru, felly roedd yn dda i ni gael gwybod amdani, roedd yn hardd ac yn drwm o aeron coch.

Rhai o’r teithiau eraill a groniclir yn y gyfrol hon yw Llanymddyfri, Abergwesyn, Tresaith ac Aberporth, Rhydcymerau, Soar y Mynydd, Llangwyryfon, Aberarth, Cwmystwyth, Felindre, Corris ac Hendy-gwyn ar Daf.

Dywed Alun Jones, Parc-y-rhos sy’n gyd aelod i Anne yng Nghymdeithas Edward Llwyd “Mae Anne Gwynne yn un o ffyddloniaid y Gymdeithas ers degawde. Wedi cyfrannu yn helaeth drwy fynychu ac arwain teithiau yng nghefn gwlad Siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin. Mae darllenwyr Y Barcud wedi bod yn edrych ymlaen i’w cholofn misol i gael hanes byd crwydrol Anne.”

Ychwanegodd Alun “Rwy wedi cael blas ar ddarllen y gyfrol hon ar hanesion diddorol, a braint bob amser yw cael cerdded yng ngwmni person mor fyrlymus a hyddysg ag Anne.”

Mae’r llyfr ar werth mewn siopau lleol am £7.95, neu oddi wrth Anne Gwynne ei hun ar 01794 298995. Rhennir unrhyw elw rhwng Cymdeithas Edward Llwyd, Ambiwlans Awyr Cymru ac Adran Cemotherapi, Ysbyty Bronglais.