Cyfweliad â Dyfed Thomas o Seland Newydd

Mae Dyfed yn gweithio i Iechyd Cyhoeddus y Waikato sy’n llwyddo i daclo COVID-19 yno.

gan Ifan Meredith

1. Rho ychydig o dy gefndir.

Cartref

Gwnes i dyfu lan yng Nghribyn gyda fy chwaer Hậf a’n rhieni, Ronald a Morwen. Nawr rydw i yn byw yn Hamilton gyda fy ngwraig Greta sy’n wreiddiol o Hamilton a’n merch Seren sy’n bedair oed. Dinas o tua 160,000 o bobl yw Hamilton, yng nghanol ynys y gogledd tua dwy awr i’r de o Auckland, ac wrth gwrs yn gartref nawr i Warren Gatland a’r Chiefs!

Ysgol

Es i ysgol gynradd Cross Inn, Llanon, lle’r oedd mam yn dysgu, ac wedyn i’r ysgol uwchradd yn Aberaeron.

Prifysgol

Es i brifysgol yng Nghaerdydd lle raddiais mewn Astudiaethau Morwrol yn 1997. Wedyn ôl-radd yn Nhrefforest mewn Systemau Gwybodaeth Daearyddol a graddio yn 2001. Yna ar ôl bod yn Seland Newydd am dipyn, gwnes uwchradd diploma mewn Iechyd Cyhoeddus yn Ysgol Feddygol Wellington, Prifysgol Otago.

Gwaith

Ers tua 2003 rydw i wedi gweithio rhan fwyaf ym maes iechyd cyhoeddus a phenderfynyddion iechyd ehangach. Heddiw rydw i yn gweithio fel un o’r rheolwyr yn Uned Iechyd Cyhoeddus sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Rhanbarthol y Waikato yn Seland Newydd. Rydw i yma ers jyst dros ddwy flynedd.

2. Ers pryd wyt yn byw yn Seland Newydd?

Des allan yma i Wellington am y tro cyntaf yn 2003, am naw mis i ddechrau! Bues yn byw yno tan 2008, cyn bwrw nôl am Brydain a theithio De America ar y ffordd. Rydyn wedi bod nôl a ‘mhlan peth, yn byw yn Llundain tan 2010, wedyn Hamilton nes mynd nôl i Lundain yn 2014 lle cafodd Seren ei geni yn 2016. Ni nôl yma ers Ionawr 2018 nawr.

3. Beth yw dy rôl di yn Iechyd Cyhoeddus?

Rydw i’n rhedeg tîm o ddadansoddwyr data a daearyddol, dadansoddwyr polisi, ymchwilwyr a dylunydd graffeg. Rydw i yn hoffi’r amrywiaeth mae’r swydd yn ei gynnig.

4. Pryd ddechreuaist ar y gwaith cynllunio ar gyfer COVID-19?

Fe gawsom ein hachos cyntaf ar y 18fed o Fawrth, ond gwnaeth y paratoadau ddechrau yn bell cyn hynny gyda’r tîm rheoli digwyddiadau yn cael ei sefydlu ar y 23ain o Ionawr, diwrnod ar ôl i Sefydliad Iechyd y Byd gyhoeddi fod y sefyllfa yn argyfwng iechyd cyhoeddus rhyngwladol.

5. Pa sefydliadau eraill ydych chi’n gweithio yn agos gyda?

Fel rhan o Fwrdd Iechyd Rhanbarthol y Waikato rydym yn gweithio gyda thimau rheoli digwyddiadau sydd mewn cyswllt â’r ysbytai a’r gofal iechyd sylfaenol yn y rhanbarth. Hefyd rydym yn gweithio gyda’r Weinidogaeth Iechyd. Rhan fawr o’r gwaith hefyd yw gwneud yn siŵr fod anghenion lles y bobl sy’n gorfod hunan ynysu neu o dan gwarantîn yn cael eu cwrdd, ac rydym yn gweithio efo gwasanaethau lleol i wneud hyn. Hefyd rydyn ni’n gweithio yn agos gydag Amddiffyn Sifil Seland Newydd.

6. Pwy oedd yn gyfrifol am ‘track and trace’ yn eich ardal?

Yn fyr, ni oedd yn gyfrifol am hyn ac rydyn ni wedi ei wneud ers y dechrau. Fel arfer dim ond dwy nyrs iechyd cyhoeddus sydd gyda ni i wneud y gwaith hwn, ond roedd rhaid i ni gael llawer mwy o rannau eraill o’r sefydliad ehangach tan oedd tua 12 nyrs a dros 10 yn gwneud galwadau lles.

7. Sut lwyddoch i gadw’r achosion a’r marwolaethau mor isel yn Seland Newydd?

I ddechrau, mae Seland Newydd yn lwcus ei bod yn ynys yn bell o’r rhan fwyaf o lefydd, mae’n dair awr o hedfan i’r wlad agosaf. Ond y prif bethau oedd cau’r ffin yn gynnar, ar y 19eg o Fawrth pan dim ond 28 o achosion oedd gyda ni yn y wlad. Wedyn aethom i mewn i “lockdown level 4” ar y 25ain o Fawrth pan oedd 280 o achosion yn y wlad, dull “go hard, go early” oedd hi. Y peth arall pwysig oedd y system o ‘track and trace’ lle roedden ni’n gallu canfod pobl oedd wedi bod yn gysylltiedig ag achosion yn glou a’u hynysu.

8. Beth ydych chi’n cynllunio ar ei gyfer nawr yn Iechyd Cyhoeddus?

Er bod yr argyfwng drosodd am nawr, rydyn ni yn cynllunio am y dyfodol oherwydd fe gawn ni ragor o achosion. Dim ond tua thrydydd o’r Uned sydd ddim yn gwneud gwaith sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws. Mae’r brechlyn o leiaf deunaw mis bant, felly mae eisiau paratoi a dysgu o’n profiad. Rydym wedi sefydlu tîm strategaeth i gydlynu pethau ac rydym yn dechrau recriwtio ar gyfer y tîm “track and trace”, neu “contact tracing”, fel mae’n cael ei alw yma. Hefyd rhan helaeth o’r cynllunio yw cryfhau ein sgiliau a dysgu’r systemau newydd; cyn i Covid-19 fwrw doedd dim system ar raddfa mor fawr i ddelio gyda chlefydau heintus i gael.

9. A oedd hi’n weddol rwydd cynnwys lledaeniad y feirws mewn gwlad sydd yn fwy gwledig a lle mae’r boblogaeth wedi cael ei lledaenu ar draws y wlad?

Er bod y wlad tua maent Prydain gyda dim ond pum miliwn o bobl mae rhan fwyaf o’r bobl yn byw mewn dinasoedd ac mae gan Auckland dros filiwn o bobl. Hefyd gellir hedfan o gwmpas y wlad yn hawdd, felly gall pethau newid yn glou iawn.

10. Pa fesuriadau sydd dal gennych yn eu lle nawr ar gyfnod clo lefel 1?

Mae lefel 1 fel bywyd normal, ond gyda’r ffiniau ar gau. Does ddim eisiau cadw pellter cymdeithasol rhagor ond mae pobl yn cael eu hannog i nodi ble maen nhw wedi bod.

11. Pa mor llym oedd y cyfyngiadau pan oeddech yng nghyfnod clo lefel 4?

Dim ond pethau angenrheidiol oedd yn cael eu gwerthu, hyd yn oed ar y we. Dim ond archfarchnadoedd a gorsafoedd petrol oedd ar agor. Roeddech yn gallu mynd allan i gerdded ond dim ond o amgylch eich cartref.

12. Sut oedd pobl yn ymateb i’r wahanol gyfyngiadau yn eich gwlad chi?

Ar y cyfan, roedd pobl yn dilyn y cyfyngiadau; roedden ni’n lefel pedwar am chwe wythnos ac roedd pobl eisiau ychydig mwy o ryddid erbyn hynny!

13. Pa ardal sydd wedi dioddef y mwyaf o farwolaethau ac achosion COVID-19?

Yn y Waikato fe gawsom 188 o achosion ac un farwolaeth, a ni oedd yr ail ranbarth o ran achosion fesul poblogaeth. Rhanbarth y de oedd â’r gyfradd fwyaf.

14. Beth wyt yn gobeithio bydd yn digwydd nesaf?

Bod Prydain yn gostwng nifer o achosion! Fel ein bod yn gallu dod nôl i weld teulu wedyn, fel roeddwn wedi bwriadu gwneud haf yma.