Cymro’n ceisio curo’r Coronafeirws

Gwyddonydd disglair o Lanbed a orchfygodd Feirws Sars wedi derbyn nawdd gan brif weinidog Canada.

gan Twynog Davies

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Prif Weinidog Canada Justin Trudeau addewid o 40 miliwn doler i dîm gweinyddol Canolfan Wyddoniaeth Genome yn Vancouver er mwyn ceisio chwilio am atebion brys i Covid 19.

Yr Athro Steven Jones – y gŵr ifanc disglaer o Ddolaugwyrddion, Pentrebach sydd yn Gyfarwyddwr ac yn Bennaeth yr Adran Biowybodeg a fydd yn un o’r tîm i arwain y gwaith ymchwil er mwyn ceisio chwilio am atebion i’r aflwydd yma sydd wedi effeithio gymaint o’n bywydau ni.

Canolbwynt y gwaith ymchwil fydd edrych ar geneteg wahanol bobl i ddarganfod sut mae’r afiechyd yn effeithio rhai ohonom yn wahanol i’w gilydd.

Bwriedir cynnal profion ar gymaint â 10,000 o bobl ar draws Canada gan y gwahanol adrannau yn y Ganolfan. Bydd yna gyfle hefyd i astudio sut mae pobl ethnic yn fwy tueddol o ddal yr afiechyd.

Mi gofiwch mai Steven a’i gydweithwyr lwyddodd i ddarganfod ateb i’r Feirws Sars a’n gobaith y bydd ef a chymaint o adrannau eraill yn darganfod brechiad newydd llwyddiannus i orchfygu’r feirws bresennol.

Mae’r canlyniadau yn ddifrifol os na gawn ateb yn fuan iawn. Pob dymuniad da i Steven – yr ydym fel ardal yn ymfalchïo yn ei lwyddiant fel cyn ddisgybl Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan a fel gwyddonydd o fri.