Cymuned rygbi Llambed yn rhedeg 4000 milltir

Cyfnewid sesiynau hyfforddi arferol am sialens y capten.

Daryl Davies
gan Daryl Davies

Mae Clwb Rygbi Llambed yn mynd ati i godi arian at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – gan godi chwys ac ysbryd y gymuned ar yr un pryd.

Mae’r tïm wedi cyfnewid ei sesiynau hyfforddi arferol am sialens a osodwyd gan Gapten y tïm cyntaf, Daryl Davies.

Penderfynodd chwaraewyr y clwb rhedeg mil o filltiroedd ar y cyd – ond gyda’u camau yn uno at yr un cyfanswm – yn ystod mis Ebrill. Cyflawnwyd hyn o fewn saith diwrnod, felly mae’r nod nawr wedi ei ymestyn hyd at 4000 milltir, ac mae dros cant o gefnogwyr y clwb wedi ymuno â’r ymdrech.

Dywedodd Daryl: “Dechreuon ni’r ymdrech er mwyn dangos ein diolchgarwch at bawb sydd yn gweithio mor galed ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, ac i gadw’r tïm yn ffit ac yn unedig yn ystod yr amser anghyffredin yma.”

“Yn go gloi roedd hi’n amlwg bod cymuned ehangach y clwb yn eisiau cyfrannu, a mae wedi bod yn anhygoel gweld y milltiroedd yn neidio i fyny. Ein gobaith nawr yw i gyrraedd ein targed ariannol.”

I helpu’r clwb a’u cefnogwyr gyrraedd eu targed o £1,500, ymwelwch â gwefan justgiving.