Cynlluniau ariannu prosiectau seilwaith gwyrdd yn Llambed yn cael eu cyflwyno

gan Siwan Richards

Llanbedr Pont Steffan

Bydd ceisiadau yn cael eu cyflwyno am gyllid ar gyfer dau brosiect gwyrdd yn Llambed. Daw hyn ar ôl i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion gymeradwyo cyflwyno’r cynlluniau ar 28 Ionawr 2020. Bydd y cynlluniau nawr yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Datblygwyd hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’n ddiweddar bod ‘Cronfa Seilwaith Gwyrdd’ gwerth £5m ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru i wneud cais.

Mae Seilwaith Gwyrdd yn egwyddor dylunio lle caiff gwyrddni a llystyfiant eu rhoi mewn ardaloedd adeiledig i gynyddu gwyrddu ardaloedd trefol. Yn ogystal â sicrhau nad yw ardaloedd trefol yn gorboethi, lleihau faint o ddŵr sy’n llifo oddi ar y tir a chynyddu lles trigolion.

Un o’r prosiectau arfaethedig yw ‘Coridor Gwyrdd Llanbedr Pont Steffan’ sy’n cynnwys gwella llwybr troed – mynediad i bawb, sy’n cysylltu’r Gogledd a’r De o’r dref drwy’r Brifysgol. Y cynllun arfaethedig arall yw ‘Blaenoriaethu Cerddwyr ar Stryd y Farchnad’ a fyddai’n gweld mannau o’r dref yn datblygu fel system draeniad cynaliadwy newydd, plannu coed, seddi a mannau ar gyfer stondinau farchnad a stondinau gwib.

Rhodri Evans yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio. Dywedodd, “Mae’r buddsoddiad hwn yn Llambed yn dangos sut y gall buddsoddiadau mewn seilwaith gwyrdd helpu ein hamgylchedd a bod yn fuddiol iawn i’r dref. Yn ogystal â gwella hygyrchedd i gerddwyr, mae ganddo’r potensial i ddod â mwy o fusnes i mewn i’r dref gyda stondinau marchnad a stondinau gwib.”

Mae’r penderfyniad hwn yn cefnogi blaenoriaethau corfforaethol y cyngor o Hyrwyddo Cydnerthedd Amgylcheddol a Chymunedol a Hybu’r Economi.