Tafarn y Dderi, George, y Globe, y Crown Bach, y Three Horse Shoes, Priordy, y Plough a’r Swan

Wyddech chi fod cymaint o dafarnau wedi bod ar un ochr Stryd Fawr Llanbed?

gan Yvonne Davies

Ffair Dalis ar y Stryd Fawr.

Yn rhifyn Tachwedd Papur Bro Clonc, rwy’n ysgrifennu am hen dafarnau Stryd Fawr Llanbed unwaith eto gan gadw at ochr chwith yr heol o gyfeiriad Neuadd yr Eglwys y tro hwn.

Gallwch ddarllen am yr hyn a ddarganfyddais am Dafarn y Dderi, George, y Globe, Royal Oak, y Crown Bach, y Three Horse Shoes, Priordy, y Plough a’r Swan.  Wyddech chi fod cymaint o dafarnau wedi bod ar yr ochr hon yn unig o’r Stryd Fawr?  A phob un ohonynt â hanes diddorol iawn!

Roedd rhai ohonynt dim ond yn agor ar ddiwrnod Ffair a rhai ohonynt â stablau yn y cefn ar gyfer y ceffylau.  Rwyf wedi treulio blynyddoedd yn ymchwilio i hanes tafarnau Llanbed, nid mewn tafarnau cofiwch, ond mewn dogfennau hanesyddol.  Ceir darlun rhyfeddol o fywyd y dref ac arferion hynod y trigolion.

Cofiwch brynu rhifyn Tachwedd Papur Bro Clonc yn y siopau lleol er mwyn darganfod mwy am dafarnau Llanbed.