Yn rhifyn Hydref Papur Bro Clonc, cawn gip ar ragor o hen dafarnau Llanbed. Awn am dro o waelod Stryd y Bont lle’r oedd tafarn y Fountain a’r Neuadd Arms i Sgwâr Harfod, ar hyd Stryd y Coleg, Ffordd y Gogledd a Heol y Bryn a gorffen yn Llain y Castell a adnabyddir o hyd fel y Castle Green.
Wedi 150 o flynyddoedd, braf gweld bod y Castle Green dal i fasnachu fel tafarn lwyddiannus yn y dref, ond yn achos llawer o’r rhai eraill a gofnodir ym Mhapur Bro Clonc mae’r tafarnau hyn wedi hen fynd yn anghof.
O ddechrau ymchwilio deuthum ar draws enwau tafarnau fel Drovers Arms, Smiths’ Arms, White Lion, White Heart, Royal George, Swan, Bumper, Gwesty’r Walters a Throedrhiw.
Meddyliwch fod stablau i ddeg ceffyl yn y Fountain ger safle W D Lewis a’i fab a stablau i ugain ceffyl yn y King’s Head, sef y Nag’s heddiw.
Hanes diddorol iawn, mae’n rhaid dweud. Porwch yn rhifyn cyfredol Papur Bro Clonc er mwyn darllen mwy am hanes tafarnau’r dref.