Gwerthu canhwyllau ar gyfer Dathliad 150 Ysgol Llanllwni

Ysgol Llanllwni yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 150 oed mewn ffordd amgen.

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Mae Ysgol Llanllwni yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 150 oed eleni. Yn anffodus oherwydd Covid-19, ni fyddwn yn gallu dathlu gyda’r gymuned fel y byddem yn dymuno.

Er hynny, rydym yn dal am ddathlu a rhwng y 30ain o Dachwedd a’r 4ydd o Ragfyr bydd wythnos o ddathlu yn cael ei chynnal yn yr Ysgol i’r plant a’r staff yn unig. Ddydd Gwener y 4ydd o Ragfyr, byddwn yn dod â’r dathliad i ben gyda gwasanaeth goleuni ar iard yr Ysgol o dan arweiniad Cannon Eileen.

Er mwyn ceisio cynnwys y gymuned yn y dathliad byddwn yn gwerthu canhwyllau i aelodau’r gymuned. Bydd y canhwyllau, gydag arwyddlun y dathlu, yn cael eu gwerthu yn yr Ysgol. Gofynnwn i bawb ymuno â ni i gynnau’r gannwyll yn eich cartref er mwyn dathlu pen-blwydd yr Ysgol am 7yh nos Wener y 4ydd o Ragfyr.

Cysylltwch â’r Ysgol er mwyn archebu canhwyllau a’u casglu y tu allan i’r Ysgol, gan ddilyn rheolau’r Llywodraeth ar bellter cymdeithasol. (Cost – £3.50).

Yn rhan o ddathliad yr Ysgol yn 150 oed, byddwn yn casglu lluniau hen a newydd o gyn-aelodau’r Ysgol. Byddem yn ddiolchgar tu hwnt pe byddech yn medru anfon eich lluniau i’r Ysgol er mwyn i ni ddysgu am hanes yr Ysgol.

Bydd arddangosfa dathliad 150 yr Ysgol yn cael ei chreu gan ddefnyddio’r lluniau. Gofynnwn yn garedig i chi labelu’r lluniau er mwyn i ni wybod pwy sydd yn y lluniau, yn ogystal â sicrhau bod y lluniau yn cael eu dychwelyd i’r bobl gywir.

Cysylltwch â’r Ysgol i aelod o’r staff drefnu casglu’r lluniau oddi wrthoch wrth y giât, gan ddilyn rheolau pellter cymdeithasol y Llywodraeth.