Dathlu Diwedd yr Ail Rhyfel Byd yn Ewrop

Trefniadau amgen Cyngor Tref Llanbed i nodi 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Rhyfel Byd.

gan Rob Phillips
Cofeb Rhyfel

Mae Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn annog preswylwyr i gymryd rhan mewn ‘ Diwrnod Rhithiol VE ‘ i nodi 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Rhyfel Byd yn Ewrop.

Cyn argyfwng Covid19 roedd y Dirprwy Faer, y Cyng Selwyn Walters wedi gwneud cryn dipyn o waith i baratoi am benwythnos arbennig yn y dref i nodi 75 mynedd ers diwrnod ‘VE’ ond oherwydd yr argyfwng bresennol nid oedd modd cynnal y digwyddiadau hynny.

Roedd y Cyng. Selwyn Walters i fod cael ei urddo yn Faer ar Fai 1af, gyda’r Cyng. Helen Thomas yn dod yn ddirprwy iddo am y flwyddyn 2020-21 ond mae Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor a’r Seremoni Urddo’r Maer wedi cael eu gohirio am y tro.

Yn hytrach nag anghofio digwyddiad mor arwyddoaol, mae’r cyngor yn gofyn i bawb cymryd rhan mewn llwnc testun o ddiogelwch eich cartref eich hun neu ar eich stepen drws blaen – am 3yp ar ddydd Gwener 8fed Mai. Gall hynny olygu codi gwydraid o win, cwrw, rhywbeth cryfach neu paned o de neu goffi, a gwneud llwnc destun “I’r rhai a roddodd gymaint, rydym yn diolch i chi.”

Os gallech chi gymryd hunlun ohonoch chi’n gwneud hyn neu recordio fideo byr, yna gallwn wneud casgliad byr i nodi’r achlysur hwn. Gellir anfon lluniau drwy e-bost at Meryl Thomas, Clerc y dref, clerc@lampeter-tc.gov.uk neu eu hanfon drwy neges neu WhatsApp i 07814024188. Byddwn yn eu cyhoeddi ar Dudalen Facebook a ffrwd Tydar y Cyngor.

Nododd y Cyng. Selwyn Walters bod hyn yn adlewychiad o’r dathliadau ar y diwrnod VE gwreiddiol, a diolchodd i’r Cyng. Helen Thomas a Chlerc y Dref Meryl Thomas am wneud y trefniadau.