Dawns Halibalw er cof am Eiry Dafydd

gan Dwynwen Davies

Cynhaliwyd Dawns Halibalw er cof am fy annwyl ffrind Eiry Dafydd, ar nos Sadwrn, Chwefror 29ain eleni yn Neuadd Fwyd Coleg Prifysgol Y Drindod Dewi Sant yn Llanbed. Roedd Eiry yn gyd-ddisgybl i mi yn ysgol Penweddig yn y 90’au hwyr a bu’r ddwy ohonom yn ffrindiau agos nes iddi golli ei bywyd i cancer ym mis Medi 2019.

Roedd Eiry yn artist hunan-gyflogedig dawnus a llwyddiannus a sefydlwyd cwmni Haliblw ganddi er mwyn hysbysebu a gwerthu ei gwaith. Yn bwysicaf fyth, roedd hi’n fam i Megan sydd bellach yn naw mlwydd oed. Gyda’r arian a godwyd yn ystod Dawns Halibalw ac yn dilyn yr arwerthiant llwyddiannus a gynhaliwyd yn ystod y noson, codwyd swm anrhydeddus iawn o £12,000 a fydd yn cael ei drosglwyddo i teulu Eiry i sefydlu cyfrif i gefnogi dyfodol ariannol sefydlog i Megan.

Roedd hi’n fraint cael adnabod Eiry, un o’r anwylaf o ferched Cymru. Braint ac anrhydedd mwy fyth oedd cael trefnu noson er cof amdani ac er mwyn cefnogi ei theulu ac yn arbennig Megan fach, gyda diolch o waelod calon i bob un a gefnogodd yr achos.