Sêl cŵn defaid cynta Ceredigion ers 7 mlynedd yn codi arian i Uned Cemotherapi

Un ci defaid wedi ei werthu i brynwr o Wlad Belg am 4,000gns.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Sêl Cŵn Defaid – Llun gan Megan Elenid

Am y tro cynta ers 7 mlynedd cynhaliwyd arwerthiant cŵn defaid yng Ngheredigion ddydd Sadwrn diwethaf, Ionawr 25.

Roedd yn sêl arbennig gyda’r arwerthwyr yn rhoi holl gomisiwn o werthiant y cŵn i Uned Cemotherapi newydd Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Arferai sêl cŵn defaid gael ei gynnal yn Nhregaron hyd nes 2013, ond dyma oedd yr arwerthiant cyntaf o’i fath yng Ngheredigion ers hynny.

Yn ôl Mark Evans, un o gyfarwyddwyr yr arwerthwyr Evans Bros cafwyd “diwrnod llwyddiannus iawn” yn yr arwerthiant elusennol oedd yn cael ei gynnal yn Nhalsarn.

“Does dim sêl cŵn defaid yng Ngheredigion fel rheol ac felly roedd yn boblogaidd iawn. Roedd pobol o bob cwr yno – o’r gogledd, de, bob man” meddai.

Y ci drytaf yn yr arwerthiant oedd ci defaid, Daniel Rees, Bwlchyddwyallt, Pontrhydfendigaid a werthwyd am 4,000gns i brynwr yr holl ffordd o Wlad Belg.